A- A A+

English

Soroptimistiaid yn rhoi anrheg o £500 i glwb cerdded Cymdeithas y Deillion

Olga Evison o Soroptimistiaid Rhyngwladol Bangor a'r Cylch yn cyflwyno’r anrheg i brif weithredwr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Steven Thomas, yn swyddfeydd y Gymdeithas ym Mangor

Mae aelodau clwb cerdded Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wrth eu boddau ar ôl derbyn anrheg ariannol i helpu i dalu am fysiau i gludo aelodau rhannol ddall a dall, eu cŵn tywys a’u tywyswyr ar eu teithiau cerdded misol.

Wythnos diwethaf ymwelodd Olga Evison o Soroptimistiaid Rhyngwladol Bangor a'r Cylch â'n canolfan yn 325, Stryd Fawr, Bangor gyda'r rhodd.

Mae'r arian yn gyfraniad gwych i'r clwb cerdded.

Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas: “Mae’r Gymdeithas yn wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth SI Bangor a’r Cylch ac am eu holl roddion hael tuag at ein gwerthiant pen bwrdd.

“Mae’r cymorth hwn yn helpu i alluogi pobl sydd wedi colli eu golwg i fyw’n annibynnol.”

Mae'r Soroptimistiaid yn gweithio ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol i addysgu, grymuso a galluogi cyfleoedd i fenywod a merched.

Sefydlwyd y gangen 76 mlynedd yn ôl ac mae’n trefnu a chefnogi gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer nifer o elusennau.

Maent yn cyfarfod unwaith y mis yng Nghanolfan Gymunedol Glanadda, Bangor. I gael rhagor o wybodaeth am SI Bangor a'r Cylch, cysylltwch â vikkijwilliams@gmail.com

Mae Clwb cerdded Eryri yn agored i unrhyw un sy’n byw gyda cholled golwg.

Mae'r clwb yn cynnig cyfle i bobl adennill annibyniaeth a cherdded gwahanol lwybrau yng nghwmni ffrindiau newydd.

Mae ganddyn nhw wirfoddolwyr gwych sy'n gallu cynnal sgwrs neu gynnig help llaw i dywys ar hyd y llwybrau.

Mae’r teithiau cerdded yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Mercher o bob mis o’r flwyddyn ac mae bws i gludo cerddwyr a’u cŵn tywys o’n swyddfa ym Mangor i gychwyn y daith ac yn ôl.

Os hoffech wybod mwy am y Clwb Cerdded, cysylltwch â Bethan Sage Williams 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk