Stori Jean Evans
Dyma stori Jean Evans – un o gyn-weithwyr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru – ac un o’n caredigion.
Mae ei chysylltiad hi efo’r Gymdeithas yn mynd yn ôl i ganol 80au’r ganrif ddiwethaf.
Bu Jean yn ymweld â chanolfan adnoddau’r Gymdeithas ym Mangor i ddarllen a recordio llyfrau llafar “am flynyddoedd.”
Meddai: “Y symbyliad oedd mynd gyda Merched y Wawr am benwythos i Gaerfyrddin a’r wraig wadd oedd Rhian Evans a oedd ei hun yn ddall.
“Ac fe wnaeth hi annog yr aelodau i wirfoddoli ac i ddod i ddarllen i’r deillion ac fe wnes i feddwl, ‘Wel ma’ hwnna’n rhywbeth y gallai gyfrannu ato’ ac fe wnes i fynychu am flynyddoedd i ddarllen llyfrau llafar.
“Ond un diwrnod fe gefais alwad ffôn yn gofyn a fydden i’n fodlon dod i fewn (i’r ganolfan) am rhyw dair wythnos i helpu - am fod y person oedd yng ngofal y llyfrau llafar yn sal.
“Ac mi aeth y tair wythnos yn wyth mlynedd!”
Meddai: “A braf oedd cael gweithio ddwywaith yr wythnos gyda’r Gymdeithas.
“Dwi’n meddwl fod y gwaith mae’r tîm yn ei wneud – a thîm ydan nhw, nid unigolion - yn amhrisiadwy.
“Mae’r gwasanaeth y maen nhw yn ei roi i’r deillion, d’oes dim tebyg iddo. Dwi’n eu hedmygu nhw yn fawr iawn ac yn dymuno y byddan nhw yn brasgamu ymlaen i’r dyfodol gyda’r offer a’r technoleg newydd.
“Mae nhw i’w cefnogi pob cam. Diolch amdanyn nhw. A diolch am y cŵn tywys hefyd sydd o gymorth. Ond mae’r darllen – yn enwedig darllen llyfrau Cymraeg - mae angen gwirfoddolwyr i ddarllen y llyfrau. Ac os yn bosib, y llyfrau sy’n gynhenid Gymraeg. Ond mae pob un gwasanaeth yn werth eu rhoi.”



