Basged (0) Mewngofnodi

Sylw i Einir a’r llyfrau llafar ar Radio Cymru

Diolch yn fawr iawn i raglen Post Prynhawn, BBC Radio Cymru am roi sylw i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru’r wythnos ddiwethaf. (Awst 22, 2025)

Mae Einir Wyn Williams o Fethesda wedi’i phenodi’n gydlynydd llyfrau llafar Cymraeg y Gymdeithas sef GWRANDO. 

Mae gan Einir nam golwg Stargardts. 

Gwrandewch ar y cyflwynydd, Liam Evans, yn holi Einir o 51:30 ymlaen.

Post Prynhawn - Liam Evans yn cyflwyno

Einir Wyn Williams yn gwenu gyda llyfr Bwystfil Bryn Bugail yn y cefndir