Basged (0) Mewngofnodi

Taith ddisgrifiadol sain am ddim yn Oriel Mostyn, Llandudno

Mae Oriel Mostyn, Llandudno yn cynnal taith ddisgrifiadol sain am ddim o'u harddangosfa gyfredol - Artes Mundi 11 ar Chwefror 20fed o 11yb-12yp.

Bydd y daith hon, a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg, yn cynnwys gwaith enillydd gwobr eleni - Antonio Paucar a Jumana Emil Abboud.

Mae croeso i bawb gan fod y sioe yn addas i bob oed. 

Croesewir cŵn tywys. 

Mae’r oriel hefyd yn cynghori i bobl ddall a phobl sydd â nam ar eu golwg i ddod â thywysydd neu gydymaith sy'n gallu gweld gyda nhw oherwydd mai nifer gyfyngedig o staff fydd ar gael i gynorthwyo ar y diwrnod.

Bydd y daith yn cychwyn ar lawr gwaelod Mostyn yn Oriel 1. Bydd lefelau golau a sain yn yr orielau yn cael eu haddasu yn unol â hynny. Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys lluniadau, paentiadau, fideo a gosodiadau cerfluniol.

Os hoffech ofyn am unrhyw gymorth mynediad ychwanegol neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at cecily@mostyn.org

Noder, os ydych chi am ddod â thywysydd neu gydymaith sy'n gallu gweld gyda chi, archebwch docyn ar gyfer pob mynychwr.

Cyfeiriad: 12 Vaughan Street, Llandudno LL30 1AB

Rhif Ffon: 01492 879201