Taith gerdded odidog ger Llyn Trawsfynydd
Daeth 28 o gerddwyr gyda ni ar ein taith gerdded ddiweddaraf i ardal Trawsfynydd – a phump o gŵn tywys.
Arweinydd y daith oedd David P Jones a Robat Davies, y ddau’n wardeiniaid gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Wedi inni gyfarfod ger Canolfan yr Ymwelwyr, fe wnaeth David ein harwain ar daith gylchol hamddenol tua 4.5 milltir o hyd i Brif Argae Llyn Trawsfynydd.
Mae Llyn Trawsfynydd ychydig yn fwy na Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru.
Creuwyd Llyn Trawsfynydd drwy godi pedwar argae i gyflenwi dŵr i orsaf bŵer Maentwrog.
Cyflogwyd cannoedd o Wyddelod i wneud y gwaith adeiladu ar yr argae.
Collwyd rhagor na 20 eiddo greu’r llyn gan gynnwys o leiaf dwy fferm - Brynhir a Llwynderw.
Yn 1965 defnyddiwyd dŵr o’r llyn hefyd i oeri atomfa niwclear Trawsfynydd a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965 ar gost o £103m.
Fe’i caewyd yn 1991 gyda’r gwaith o’i glanhau a’i datgomisiynu am gymryd 100 mlynedd.
Yr atomfa yw un o gyflogwyr mwyaf yr ardal.
Mae pysgod i’w cael yn y llyn ond mae nofio wedi’i wahardd oherwydd pryderon am ymbelydredd.
Cafodd y ffilm First Knight ei ffilmio yn yr ardal.
Wedi cael toriad am ginio ger y prif argae, fe gerddon ni drwy Goed Caersaeson cyn dychwelyd yn ôl i'r dechrau.
Roedd y tywydd yn braf gydag awel hyfryd a’r golygfeydd o’r mynyddoedd tuag at yr Wyddfa a draw i Flaenau Ffestiniog yn odidog.
Fe fwynhaodd pawb y daith ac roedd yn braf dychwelyd i Ganolfan a chaffi Prysor ar fin y llyn i gael diodydd a chacennau ar y diwedd cyn anelu yn ôl yn y bws i Fangor.