A- A A+

English

Taith gerdded Pentrefelin, Cricieth

Daeth pymtheg o bobl ar daith hyfryd ddiweddaraf y clwb oedd yn cynnwys ymweliad arbennig a hen eglwys Cynhaearn ger Pentrefelin, Cricieth.

Fe ddechreuodd y bws fel arfer o swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru am 10.30yb gan godi cerddwyr hefyd yng Nghaernarfon.

Ar ôl cyfarfod ym Mhysgota Eisteddfa, Pentrefelin, cychwynnon ni ar ein taith dan arweiniad Marian Jones.

Ar ôl croesi’r ffordd brysur fe aethon ni ar hyd llwybrau a chaeau gan gyrraedd yr eglwys.

Saif yr eglwys ar dir a oedd unwaith yn ynys yn Llyn Ystumllyn. Yn ddiweddarach ail-gyfeiriwyd yr afon gerllaw fel bod y tir o amgylch yr eglwys nawr yn sych.

Gwr o dras tywysogaidd oedd Cynhaearn ap Cynwel a gychwynnodd ar fywyd mynachaidd yn dilyn marwolaeth ei dad dan law’r Sacsoniaid.

Ei frawd oedd Sant Aelhaearn sy’n gysylltiedig gyda Llanaelhaearn. Dywedir i Cynhaearn rwyfo allan i’r ynys ar Lyn Ystumllyn ac adeiladu ei eglwys o bosib yn y 5G.

Mae tu fewn yr eglwys yn hynod oherwydd ei bulpud trillawr, ffenestri lliw gwydr ac organ siambr yn y nenfwd. Mae un ffenestr yn dangos Cynhaearn gyda rhwyf.

Mae mynwent yr eglwys yn hynod am fod yma claddwyd nifer o enwogion gan gynnwys y telynor dall Dafydd y Garreg Wen.

Yma hefyd y claddwyd John Ystumllyn sef cyn-gaethwas o Affrica ddaeth yn arddwr arbennig yn yr ardal yn yr 18G.

Mae yma gofeb i deulu James Spooner, syrfewr a adeiladodd Reilffordd Ffestiniog yn ogystal.

Cyn sefydlu tref Porthmadog, sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd, dyma oedd Eglwys Blwyf yr ardal.

Mae corff yr eglwys yn dyddio'n ôl i'r 12G.

Roedd yr eglwys hefyd yn gyrchfan ar daith y pererinion i Ynys Enlli.

Daeth gwasanaethau i ben yma yn 1983 a nawr mae yng ngofal Cyfeillion y Friendless Churches.

Ar ôl cinio a gymerwyd y tu allan i’r eglwys, fe wnaethon ni ddychwelyd yn ôl i Bysgotfa Eisteddfa lle mwynhawyd paned a chacen cyn i’r bws ein casglu i fynd yn ôl i Fangor am 3yp.

Roedd y daith yn un bendigedig mewn tywydd a chyfeillachu da.

Byddwn yn rhannu hysbysiad o’n taith nesaf cyn bo hir sef ar y trydydd dydd Mercher o’r mis – Hydref 23 y tro hwn.

Mae croeso i unrhyw un sydd â nam golwg i ymuno gyda ni. Rydym ni hefyd yn chwilio am deithiau cerdded gwahanol a newydd i fynd arnyn nhw sy’n hygyrch i bawb. Cysylltwch gyda Bethan cyn gynted â phosibl drwy admin@nwsb.org.uk neu 01248 353604.