Taith gerdded Ty’n-y-Maes i Tregarth, Bethesda
Taith hyfryd o Ty’n-y-Maes i Dregarth
Daeth 19 ohonom ar ein taith ddiweddaraf sef o Ty’n-y-Maes i Dregarth, ger Bethesda, Dyffryn Ogwen.
Dan arweiniad Mark Roberts a Kevin Phillips, fe gychwynon ni o Ty'n-y-Maes, dwy filltir i fyny'r A5 o Fethesda i gyfeiriad Llyn Ogwen.
Fe gerddon ni ar hyd hen ffordd Nant Ffrancon cyn ymuno â Lôn Las Ogwen.
Roedd y cwmni’n ddifyr; y tywydd yn braf a’r golygfeydd yn odidog.
Gwelsom natur ar ei gorau gan gynnwys afonydd, caeau a rhedyn.
Roedd dipyn o olion diwydiannol i’w gweld hefyd gan gynnwys y Twnnel Tywyll a bryniau o wastraff llechi.
Ar ôl aros am ginio yn Zip World, fe gerddon ni ar hyd Lôn Las Ogwen i gyfeiriad Tregarth.
Fe arhoson ni wrth ymyl adfeilion Ysbyty Chwarel y Penrhyn, a elwid yn lleol yn Ysbyty Brynllwyd oedd yn rhoi triniaeth frys i chwarelwyr a anafwyd yn y gwaith a hefyd yn trin ymwelwyr i Eryri oedd wedi’u hanafu.
Yma ym 1847 y cynhaliwyd y llawdriniaeth lwyddiannus gyntaf dan anaesthetig yng ngogledd-orllewin Cymru – sef torri coes.
Fe groeson ni dros bont yr Afon Ogwen ar ddiwedd y daith tua pum milltir o hyd gan ddod i ddiwedd y daith bleserus hon yn Nhregarth ble roedd bws Dilwyn yn ein disgwyl.
Bydd y daith nesaf ar y trydydd dydd Mercher o’r mis sef dydd Mercher, Gorffennaf 17. Fe wnawn ni rannu’r wybodaeth gyda chi yn nes at yr amser.