Basged (0) Mewngofnodi

Taith gylchol bendigedig i Warchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn

Daeth 24 o gerddwyr a phump ci tywys gyda ni heddiw ar ein taith gerdded gylchol i Warchodfa Natur Cemlyn ar arfordir gogleddol Ynys Môn.

Mae Gwarchodfa Natur Cemlyn yn gartref i un o'r cytrefi mwyaf o wennoliaid y môr yn y DU ac fe wnaeth Ben Stammers o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ymuno â ni ar ein taith.

Fe wnaeth Ben egluro llawer inni am boblogaeth yr adar a gwaith yr Ymddiriedolaeth cyn ein harwain ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Fe aethon ni at Esgair Cemlyn i weld a chlywed yr adar a Thrwyn Cemlyn. Egluroedd Ben fod yr adar yn teithio yma yr holl ffordd o’r Affrig.

Ymysg yr adar yno oedd môr-wenoliaid pigddu, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid y Gogledd.

Eglurodd Ben ac un o’n gwirfoddolwyr gwybodus, Ian Morris Jones, enwau llawer o’r blodau gwyllt oedd i’w gweld hefyd,

Ac roedden ni yn ddigon lwcus i weld hanner dwsin o forloi yn nofio yn agos i’r lan tra wnaethom fwynhau ein cinio.

Roedd ein taith ychydig dros 4 milltir o hyd gan ddechrau a gorffen ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth.

Roedd y llwybr yn bennaf yn dilyn y llwybr glaswellt ar ben y clogwyn isel uwchben y lan môr cyn dychwelyd ar hyd lonydd tarmac tawel.

Nodyn: Mae un o'n haelodau, Walter Richards, wedi trefnu noson o adloniant yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caernarfon ar nos Wener, Mehefin 27 i ddechrau am 7yh.

Mae tocynnau'n £3 yr un a gellir eu gan y Gymdeithas. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at gost cynnal ein clwb cerdded.

Gobeithio y bydd llawer yn dod i gefnogi'r noson.

Lluniau: Gwarchodfa Natur Cemlyn Ynys Môn (Llun: Graham Hogg/WiciCommons) a hefyd llun o’r Wennol Môr/Arctic Tern gan Timfy23/WiciCommons

  • Grŵp o gerddwyr gyda sachau cefn ac offer cerdded yn symud ar hyd traeth caregog wrth ymyl dŵr tawel. Mae sawl ci gyda’r grŵp, gan gynnwys un ar dennyn yn y blaendir wrth ymyl person sy’n defnyddio ffon gerdded. Yn y pellter mae caeau gwyrdd a adeilad gwyn bach o dan awyr gymylog.
  • Grŵp o gerddwyr yn sefyll ac yn siarad ar draeth caregog o dan awyr gymylog, yn gwisgo dillad awyr agored a sachau cefn. Mae sawl ci, gan gynnwys cŵn tywys neu gymorth gyda harneisiau hi-fis, ymysg y grŵp. Mae’r arfordir a chaeau gwyrdd i’w gweld yn y cefndir.
  • Grŵp o gerddwyr wedi ymgynnull ar draeth caregog o dan awyr gymylog, yn gwisgo dillad awyr agored ac yn cario sachau cefn. Mae sawl ci tywys neu gymorth gyda harneisiau hi-fis yn sefyll o flaen ac ymysg y grŵp. Mae’r arfordir a’r wlad wledig werdd yn ymestyn yn y cefndir.
  • Grŵp o gerddwyr yn sefyll ar draeth caregog, yn gwisgo dillad awyr agored a sachau cefn, gyda rhai yn dal ffyn cerdded. Mae ci tywys mewn harnais hi-fis yn gorwedd ar y cerrig yn y blaendir tra bod ci arall yn sefyll gerllaw. Mae’r grŵp wedi ymgynnull ac yn siarad o dan awyr gymylog, gyda llystyfiant gwyrdd isel ac arfordir yn y cefndir.
  • Tri o bobl yn eistedd ar wal gerrig isel wedi’i gorchuddio â mwsogl a llystyfiant, yn cymryd seibiant ac yn bwyta byrbrydau. Mae ffyn cerdded yn gorffwys yn erbyn y wal, gyda sachau cefn gerllaw. Mae’r olygfa yn yr awyr agored mewn golau haul llachar, gyda ffens wifren ac awyr las i’w gweld uwchben y wal.
  • Dau o bobl yn eistedd ar wal gerrig isel wedi’i gorchuddio â mwsogl a llystyfiant, yn bwyta byrbrydau yn ystod seibiant cerdded. Mae un person gyda het goch yn dal bocs bwyd ac mae sach gefn ar ei lin, tra bod person arall mewn siaced las yn dal bwyd wedi’i lapio. Mae ci du ar dennyn yn sefyll gerllaw. Mae ffens wifren ac awyr ddisglair i’w gweld uwchben y wal.
  • Dau o bobl yn eistedd ar greigiau wrth ymyl wal gerrig isel wedi’i gorchuddio â mwsogl, yn cymryd seibiant yn ystod taith gerdded. Mae un person mewn siaced las yn eistedd gyda sach gefn wrth ei ochr, tra bod person arall mewn dillad tywyll yn dal cynhwysydd bwyd bach. Mae pen ci i’w weld yn rhannol ar ymyl y llun. Mae ffens wifren ar ben y wal o dan awyr las llachar gyda chymylau gwasgaredig.
  • Golygfa arfordirol gyda glanfa grom o gerrig a thywod o amgylch bae bach. Yn y cefndir mae Gorsaf Bŵer Wylfa i’w gweld, gyda adeiladau diwydiannol mawr a simnai wrth ymyl y dŵr. Mae caeau gwyrdd a waliau cerrig isel yn y blaendir o dan awyr rannol gymylog.
  • Tri cherddwr yn sefyll wrth glwyd bren ar lwybr arfordirol, yn aros ac yn siarad. Mae un person yn dal ffon gerdded tra bod eraill yn gwisgo sachau cefn. Yn y blaendir, mae ci tywys du mewn harnais hi-fis ar dennyn. Y tu ôl iddynt, mae’r môr, y lan greigiog a’r penrhyn gwyrdd yn ymestyn o dan awyr rannol gymylog.
  • Golygfa dros y môr o ymyl arfordirol laswelltog gyda ffens wifren bigog yn y blaendir. Mae tonnau ysgafn yn torri yn erbyn y creigiau islaw, tra bod penrhyn gwyrdd yn ymestyn ar y chwith. Yn y pellter, mae ynysoedd creigiog bach a gorwel isel o dan awyr gymylog yn bennaf.
  • Tri cherddwr yn symud ar hyd llwybr glaswelltog arfordirol wrth ymyl ffens wifren, gyda’r môr a’r lan greigiog i’w gweld ar y chwith. Mae un person yn defnyddio ffyn cerdded, tra bod person arall yn tywys ci tywys du mewn harnais hi-fis. Mae trydydd person yn cerdded wrth eu hochr yn dal ffon. Mae’r olygfa o dan haul llachar gyda awyr las a chymylau gwasgaredig.
  • Grŵp o gerddwyr yn symud i ffwrdd ar hyd llwybr cul glaswelltog sydd wedi’i amgylchynu gan lystyfiant tal a ffens wifren. Yn y blaendir, mae un person gyda sach gefn fawr yn cerdded wrth ymyl person arall sy’n defnyddio bastwn symudedd gwyn hir, tra bod rhagor o gerddwyr yn parhau ymlaen ar hyd y llwybr o dan awyr gymylog.
  • Caeau gwyrdd gyda defaid, waliau cerrig a bae arfordirol gyda chlogwyni o dan awyr gymylog.
  • Grŵp yn cerdded ar hyd ffordd arfordirol gyda chŵn a sachau cefn, ger caeau a’r môr o dan awyr gymylog.
  • Grŵp o gerddwyr yn sefyll ar dir graean gyda chŵn tywys mewn harneisiau hi‑fis ac offer cerdded.
  • Cerddwyr yn gorffwys ar laswellt wrth wal gerrig, yn bwyta gyda chŵn tywys mewn harneisiau hi‑fis.
  • Dau gerddwr yn gorffwys wrth wal gerrig ar laswellt, un yn dal diod, o dan haul llachar.
  • Cerddwyr yn eistedd ar greigiau wrth wal gerrig, yn bwyta ac yn yfed yn ystod seibiant.
  • Dau gerddwr yn gorffwys ar wal gerrig gyda chi tywys yn y blaendir o dan haul.
  • Grŵp yn eistedd ar gerrig wrth wal gerrig yn bwyta, gyda chi gerllaw mewn haul.