Taith hyfryd o amgylch Bethesda
Daeth 24 ohonom a phedwar ci tywys ar ein taith gerdded ddiweddaraf i Fethesda ar hyd rhai o lonydd a llwybrau tawelach y pentref.
Dewiswyd y daith bedair-milltir hon gan Mark Roberts am ein bod ynghanol y tymor gwyliau a’i bod hi’n daith gerdded mewn ardal heb lawer o dwristiaeth.
Mae Mark ei hun yn byw yn Bethesda ac fe arweiniodd ni ar hyd llwybrau y mae ef a’i gi tywys ffyddlon, Forest, yn eu cerdded yn aml.
Fe ddechreon ni o Ganolfan Hamdden Plas Ffrancon ac anelu at lethrau isaf mynyddoedd y Carneddau i fyny at Cae Clochydd a Tan-y-foel cyn dychwelyd yn ôl i'r pentref ar hyd Ffordd yr Elen ar gyfer ein cinio yn Llys Dafydd.
Cafodd yr ardal gymdeithasol yma ei greu i gofio hanes Streic Penrhyn ac mae’n gyrchfan ddiddorol ar ffurf theatr gyda thoiledau gerllaw.
Roedd gwaith llechi diddorol ac enwau’r mynyddoedd lleol i’w gweld yno hefyd.
Ar ôl cinio, fe groeson ni Afon Ogwen cyn parhau ar hyd Lôn Las Ogwen (Llwybr y Llechi) tuag at Zipworld.
Fe arhoson ni wrth hen safle Ysbyty’r Chwarel (y Penrhyn) – un o’r ysbytai cyntaf yn y byd i ddefnydio anaesthetig.
Yn Zipworld, fe wnaethom gael paned a chael defnyddio’r toiledau tra’n rhyfeddu at y dewrion ar y llinellau uwch ein pennau.
Yno fe wnaeth y bws ein codi ar gyfer y daith yn ôl gyda phawb wedi mwynhau unwaith eto.
- Dau pobl yn eistedd yn cael cinio gyda dau ci tywys wrth ei ymyl
- Dau person yn eistedd lawr yn cael cinio
- Grwp o cerddwyr yn sefyll mewn maes parcio gyda awyl las hardd yn y cefndir
- Grwp o cerddwyr gyda cwn tywys yn siarad hefo'i gilydd
- Grwp o cerddwyr yn eistedd ac yn cael cinio
- Grwp o pobl yn eistedd lawr ac yn cael cinio
- Cwpl yn cerdded gyda gilydd gyda cwn tywys
- Merched yn eistedd ac yn cael cinio
- Dynion yn eistedd ac yn cael cinio









