Basged (0) Mewngofnodi

Taith hynod o Fwthyn Ogwen i Fethesda

Daeth 22 o gerddwyr a thri chi tywys ar ein taith gerdded ddiweddaraf bum milltir o hyd o Fwthyn Ogwen i Fethesda.

Roedd y tywydd yn berffaith wrth inni ymgynnull yng nghanolfan adnoddau’r Gymdeithas ym Mangor a chasglu rhagor o gerddwyr ym Methesda.

Wedi inni dynnu’r llun o bawb o’r grŵp cyn dechrau, roedd hi’n braf medru estyn croeso i rai wynebau newydd oedd wedi ymuno â ni ar gyfer y daith.

Roedd y golygfeydd yn odidog wrth inni ddechrau cerdded ar hyd ffordd Nant Ffrancon. 

Mae Nant Ffrancon yn enghraifft o ddyffryn a grëwyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. 

Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau Pen yr Ole Wen a Charnedd Dafydd tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y Glyderau, fel Y Garn, Foel Goch a Mynydd Perfedd.

Fe gafon ni ein synnu gan faint y rhaeadrau bychain o ddŵr oedd yn byrlymu i lawr y mynydd ac i Afon Ogwen.

Heblaw am anifeiliaid fel lloi, defaid ac wyn ac ambell geffyl, fe welon ni fod yna dipyn o frwyn ar hyd y caeau sy’n mynd yn wlyb iawn pan mae’n glawio.

Roedd y lôn yn rhedeg yn gyfochrog gyda ffordd yr A5 a gafodd ei ail-wneud gan Thomas Telford. 

Ar ôl croesi sawl rhwystr anifeiliaid ar y ffordd fe wnaethon ni gael cinio mewn llecyn delfrydol.

Roedd yn gyfle i bawb barhau i sgwrsio wrth fwynhau cynnwys eu bocs bwyd a diod.

Fe wnaethon ni basio bwthyn a ddefnyddiwyd fel cartref y postfeistr Alan Bates yn y ffilm ddogfen ddiweddar a ffermdy arall, Maes Caradog, oedd a’r goeden griafolen, bob ochr i lidiart cyfagos i gadw ysbrydion drwg draw.

Cyn bo hir roeddem yn cerdded i lawr yr allt tuag at Fethesda cyn codi eto i gyrraedd Zip World lle gafon ni baned a sgwrs cyn i’r bws ein casglu a dychwelyd i Fangor a phawb wedi mwynhau yn fawr.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Grwp o cerddwyr gyda cwn tywys yn gwenu
 
 
  • Grwp o cerddwyr gyda cwn tywys yn gwenu
  • Llwybr cerdded syth gyda caeau gwyrdd a mynyddoedd hardd yn y cefndir
  • Grwp o cerddwyr yn cerdddgyda mynyddoedd hardd yn y cefndir
  • Dwr yn disgyn lawr y rhaeadr
  • Grwp o cerddwyr yn siarad hefo'i gilydd
  • Grwp o cerddwyr yn cerdded gyda mynyddoedd hadd yn y cefndir gyda cymylau llwyd
  • Grwp ocerddwr yn siarad hefo'i gilydd pryd yn cael brec
  • Dau person yn cerdedd gyda cwn tywys gyda mynyddoedd hardd yn y cefndir
  • Dau person yn cerdedd gyda mynyddoedd hardd yn y cefndir
  • Tri person yn cerdedd gyda mynyddoedd hardd yn y cefndir
  • Grwp o cerddwyr yn cerdded fynu bryn