Taith llawn hanes a golygfeydd o Ddinorwig i Nant Peris
Daeth 25 o gerddwyr a dau gi tywys ar ein taith gerdded hamddenol 3.5 milltir ddiweddaraf ddydd Mercher, Gorffennaf 15.
Er bod y tywydd yn boeth roedd awel braf dros y rhan fwyaf o’r daith o Chwarel Dinorwig i Nant Peris.
Roedd y daith, arweiniwyd gan Eurwyn Thomas, yn llawn hanes a golygfeydd dramatig.
Fe ddechreuon ni yng nghysgod y chwarel lechi enfawr ar lethrau Elidir Fawr gydag olion y rheilffordd lechi a’r hen weithfeydd i’w gweld.
Roedd y llwybr yn eithaf gwastad ac yn hawdd ei ddilyn.
Roedd Chwarel Dinorwig yn un o’r ddwy chwarel fwyaf yng Nghymru gyda Chwarel y Penrhyn.
Ar un adeg y ddwy yma oedd chwareli mwyar byd.
Roedd y dirwedd yn llawn tystiolaeth o’r gorffennol diwydiannol gyda therasau llechi enfawr, hen adeiladau’r gweithfeydd a llwybrau cul a ddefnyddiwyd gan y chwarelwyr.
O’r fan ble wnaethom aros am ginio roedd yn bosib gweld Brenhines Yr Wyddfa - ffurfiad creigiau naturiol enwog wedi’i leoli ar ymyl ogleddol Yr Wyddfa.
Hefyd, gwelsom Farics Môn - ble byddai gweithwyr o Ynys Môn yn aros yn ystod yr wythnos cyn dychwelyd adref ar droed ar y penwythnos.
Yno hefyd saif Castell Dolbadarn. Roedd yn rhan o system amddiffynnol Gwynedd, yn rheoli’r llwybrau i’r de a’r gorllewin.
Yn ystod y cyfnod rhwng Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd, defnyddiwyd y castell fel carchar brenhinol.
Ar ôl cinio bu inni gerdded y llwybr llechi igam-ogam i lawr at y briffordd cyn cyrraedd pentref Nant Peris ar ben y dyffryn.
Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.



