Un o’r Pedwar Cofi yn trefnu noson i’r deillion!
Mae un o’r Pedwar Cofi a anfarwolwyd ar Britain’s Got Talent yn trefnu noson i godi arian i’r deillion ar ôl iddo gael ei gofrestru’n ddall.
Fe gafodd y pedwar gryn argraff ar feirniaid BGT yn 2019 ar ôl ymddangos fel grŵp o gerddorion ar lwyfan y Paladiwm yn Llundain. Y Pedwar Cofi oedd Meirion Jones, Ifor Jones, Adrian Roberts a Walter Richards.
Ar ôl iddo gael ei gofrestru’n ddall, mae Walter rŵan wedi penderfynu trefnu noson i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Mae’r Gymdeithas yn cefnogi plant ac oedolion sy’n ddall neu’n byw gyda nam golwg. Maent hefyd yn trefnu teithiau cerdded misol ar gyfer y deillion gyda Walter yn mwynhau yn fawr.
Er mwyn dangos ei ddiolchgarwch mae Walter nawr yn trefnu noson Sioe Talentau lleol yng Nghlwb Cefnogwyr Pêl-droed Caernarfon nos Wener, Mehefin 26 am 7yh gyda chanu, dawnsio, disgo, comedi, raffl a bingo a digon o hwyl a sbort!
Meddai: “Dwi isio rhoi rhywbeth yn ôl i’r Gymdeithas ac i’r Clwb Cerdded. Gobeithio y gwnewch chi gyd ddod i gefnogi'r noson.”
Tocynnau yn £3 ac ar gael gan Walter 07500 754 302 neu gan Bethan 01248 353604.
- Walter Richards ar ôl mwynhau taith gerdded gyda’r deillion
Walter Richards ar ôl mwynhau taith gerdded gyda’r deillion
- Walter Richards yn dangos poster a thocynnau ar gyfer y noson elusennol
Walter Richards yn dangos poster a thocynnau ar gyfer y noson elusennol
- Walter Richards ar lwyfan gyda’r Pedwar Cofi ar Britain’s Got Talent!
Walter Richards ar lwyfan gyda’r Pedwar Cofi ar Britain’s Got Talent!



