A- A A+

English

Ymweliad â chanolfan y Blind Veterans yn Llandudno

Buodd staff Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn ymweld â chartref i gyn-filwyr dall yn Llandudno.

Sefydlwyd canolfan Blind Veterans yn Llandudno yn 2012.

Mae gan ein Cymdeithas berthynas agos gyda’r ganolfan ac rydym yn cydweithio yn aml.

Mae dynion a merched sy’n ddall neu sydd â nam golwg ac yn gyn-aelodau o’r lluoedd arfog yn medru aros yn y ganolfan dros gyfnodau o amser.

Maen nhw yn cael cyfle i ddysgu sut i fyw’n annibynnol neu i dderbyn hyfforddiant i goginio, defnyddio ffon wen neu ddysgu defnyddio technoleg, er enghraifft.

Mae gan y ganolfan 40 o ystafelloedd gwely ar gyfer ymwelwyr yn ogystal â sawl lolfa, gym, ceginau hyfforddi, ystafelloedd TG a gweithdy coed a chelf.

Mae teclynnau codi yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd.

Daw pobl bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol yno gyda lle i oddeutu 60 aros ar y tro.

Sefydlwyd y cartref i wasanaethu milwyr sydd wedi gwasanaethu lluoedd arfog Prydain.

Cynigir gwyliau byr a hirach i’r aelodau a’u partneriaid neu ofalwyr neu aelodau eraill o’r teulu.

Roedd yr aelodau i gyd yn medru gweld cyn iddyn nhw golli eu golwg oherwydd rhyfeloedd.

Mae gan y ganolfan ddrysau llydan a choridorau gyda chanllawiau ar hyd pob un wal gyda’r aelodau yn cerdded ar yr ochr chwith a’r staff ar y dde.

Eglurodd rheolwr y ganolfan Kathy Boardman mai gobaith y ganolfan yw bod o gymorth i’r aelodau yn fuan iawn wedi iddyn nhw gael nam golwg.

Caiff pawb o’r lluoedd arfog aros yno cyhyd eu bod wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod.

Eglurodd un o’r staff nyrsio eu bod yn llunio cynlluniau gofal ar gyfer pob un o’r aelodau ac yn gwirio asesiadau yn barhaol.

Mae gan nifer o’r aelodau wahanol gyflyrau golwg neu glefyd siwgr, PTSD a phroblemau cerdded neu broblemau iechyd eraill.

Mae’r ganolfan yn cynnig profiadau a thripiau i’r aelodau tebyg i gerdded, mynydda, hwylio, gyrru, saethu ac ati yn ogystal â sgiliau coginio a dysgu sut mae defnyddio teclynnau fel Alexa ac ati.

Mewn rhai achosion mae’r staff profiadol yn medru rhoi cymorth ar sut i ddelio â galar yn sgil colli golwg.

Mae’r gost o aros yn y ganolfan yn amrywio ac yn cynnwys tri phryd o fwyd y dydd, paneidiau a chacennau, tripiau a hefyd trafnidiaeth i nôl a hebrwng yr aelod i Landudno mewn cerbydau pwrpasol.

Mae’r gost o gael gofal nyrsio yn ystod ymweliadau yn ychwanegol.