32 o gerddwyr ar ein taith i Gwm Penamnen!
Daeth 32 o gerddwyr ar ein taith gylchredol i Gwm Penamnen, Dolwyddelan, heddiw (Mehefin 17, 2026) – y nifer fwyaf erioed!
Hefyd roedd yna chwech ci tywys.
Roedd y daith bron 5 milltir o hyd gan ddechrau a gorffen yn maes parcio Gorsaf Reilffordd Dolwyddelan.
Roedd yr haul yn gwenu a’r awel yn hyfryd wrth inni groesi’r bont dros Afon Lledr ar hyd Ffordd Rhufeinig Sarn Helen sydd bellach â wyneb tarmac da.
Arweinydd y daith oedd un o swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri - Eryri National Park – Ioan Davies.
Eglurodd fod Sarn Helen yn mynd yn ei blaen hyd at Tomen y Mur, Trawsfynydd.
Wedi inni basio Carreg Alldrefn a sawl rhaeadr, fe gyrhaddon ni Tai Penamnen a ddechreuodd fel bwthyn un ystafell yn y 15fed ganrif cyn troi’n gymuned gyda rhagor na 30 o bobl yn byw yno.
Fe ddewison ni safle picnic braf ger Afon Cwm Penamnen i gael ein cinio.
Wrth anelu yn ôl, daethom ar hyd rhan eithaf gwlyb a mwdlyd ond wnaeth hynny ddim ein rhwystro o gwbl cyn inni gyrraedd at ddechrau’r daith.
Roedd pawb wedi mwynhau unwaith eto ac yn edrych ymlaen at y daith nesaf y mis nesaf.



