Basged (0) Mewngofnodi

50 o aelodau ein Clwb Cerdded yn mwynhau cinio Nadolig

Fe fwynhaodd 50 o aelodau Clwb Cerdded Eryri ginio Nadolig blasus yng Nghlwb Rygbi Bethesda ddydd Mercher (3.12.25)

Mae’r clwb yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ac yn trefnu teithiau cerdded misol i’r aelodau.

Mae’r aelodau yn ddeillion neu unrhyw un sy’n byw gyda nam golwg.

Mae’r teithiau yn cynnig cyfle i bawb fynd allan i’r awyr iach sy’n fuddiol o ran iechyd ac o ran iechyd meddwl.

Mae pawb yn cyd-dynnu’n hapus a’r sgwrsio wastad yn ddiddorol.

Hefyd yn ymuno ar y teithiau mae partneriaid, ffrindiau a gwirfoddolwyr sydd wedi cael hyfforddi arbenigol gan y Gymdeithas i dywys yn gywir.

Fe fwynhaodd pawb y cinio Nadolig yn y clwb gydag un o’r gwirfoddolwyr, Ian Joness, yn adlonni gyda’i ganu a’i gitâr.

Trefnwyd raffl hefyd gyda gwobrau gwych.

Diolchodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas, i Mark Roberts - sy’n trefnu’r teithiau ac sy’n aelod o fwrdd rheoli’r Gymdeithas – ac i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn gan annog unrhyw berson gyda nam golwg i ymuno â ni.

Mae Mark eisoes wedi paratoi rhestr o deithiau i’r Clwb Cerdded ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Os hoffai unrhyw un wybod mwy am ein teithiau, cysylltwch gyda swyddog ymgysylltu’r Gymdeithas, Bethan Sage Williams, 01248 353604 admin@nwsb.org.uk