Abergwyngregyn i Llanfairfechan
Ar ddiwrnod bendigedig o Wanwyn, daeth 29 o aelodau i’n taith gerdded ddiweddaraf thwng Abergwyngregyn a Llanfairfechan.
Ar un tro, roedd Abergwyngregyn yn safle i hoff lys, neu balas, tywysogion Gwynedd.
Mae yma olion o gastell mwnt a beili a gafodd ei adeiladu, mwy na thebyg, gan y Normaniaid yn yr 11eg ganrif.
Mae gweddillion llys tywysogion Cymru o’r 13eg ganrif yn llai amlwg.
Ym 1993, datguddiodd cloddiadau sylfeini neuadd fawr, yn ogystal â chrochenwaith o’r 13eg ganrif a’r 14eg ganrif, ac mae haneswyr wedi awgrymu bod y palas yn y fan hon.
Heddiw mae’r pentref hefyd yn enwog am ei Raeadr Fawr ac am y distyllfa chwisgi a gin sydd yn y pentref.
Roedd hon yn daith gerdded hawdd ar hyd yr arfordir sydd heb ei ddifetha yn cynnig cyfleoedd gwych i wylio adar yn ogystal â golygfeydd hyfryd tuag at Ynys Môn ac Ynys Seiriol gyda mynyddoedd y Carneddau yn y cefndir.
Yr arweinydd y tro hwn oedd Kevin ‘Bach’ Williams sy fwyaf adnabyddus i laweroedd fel DJ Capital FM ond sy nawr i’w glywed ar orsaf radio Môn FM.
Ond ef fod rhai rhannu o’r traeth a’r llwybr caregog wedi profi’n heriol i’r cerddwyr ar adegau, roedd pawb o’r farn eu bod wedi mwynhau yn arw iawn.
Mae Traeth Lafan yn Safle Dynodedig o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gwarchod Arbennig, ac fe'i cydnabyddir fel safle pwysig ar gyfer adar.
Roedd y daith gerdded hon yn ymweld â thair gwarchodfa natur gan gynnwys Morfa Madryn lle wnaethon fwynhau ein cinio.
Mewn fawr o dro, fe wnaethon gyrraedd Llanfairfechan a mwynhau panad, cacennau a hufen ia yn y caffi croesawus yno cyn cael ein codi gan y bws i ddychwelyd i Fangor.
Mae pawb nawr yn edrych ymlaen yn arw at daith nesaf y grŵp sef ar y trydydd dydd Mercher o’r mis.
Manylion i ddilyn.
- Grwp o cerddwyr yn barod i gerdded o Abergwyngregyn i Llanfairfechan
- Pobl yn mwynhau cerdded y daith o Abergwyngregyn i Llanfairfechan
- Pobl wedi stop i cael cinio ar fainc
- Pobl yn gwenu ac yn mwynhau y daith gyda coedwigoedd yn y cefndir
- Person gyda ci tywys gyda yn mwynhau y daith gyda pobl eraill yn y cefndir yn gwenu