Basged (0) Mewngofnodi

Ail fedal aur i'r para-saethydd Nick!

Mae dyn o Wynedd sy’n bencampwr para-saethyddiaeth y byd wedi ennill medal aur arall ym mhencampwriaeth dan do Chwaraeon Deillion Prydain (BBS).

Daeth Nick Thomas o Dalysarn i’r brig yn Ne Corea fis Medi diwethaf ac mae o wrth ei fodd ei fod wedi ennill cystadleuaeth y British Blind Society a gynhaliwyd yn Lilleshall, Shropshire y penwythnos diwethaf.

Nawr mae Nick yn paratoi at gystadleuaeth arall sef pencampwriaethau para-Ewrop yn Rhufain ar Ebrill 28.

Mae gan Nick gyflwr o'r enw Stargardt Macular Dystrophy, ac mae wedi cofrestru'n ddall. Mae’n gweithio fel swyddog datblygu gyda Chymdeithas Ddeillion Gogledd Cymru ym Mangor.

Mae’n cyfaddef ei fod wedi ei chael hi’n anodd ffocysu am gyfnod yn ddiweddar wedi ewfforia De Corea ond fod ennill y BBS wedi rhoi hwb i’w hyder.

Meddai: “Roeddwn i'n teimlo'n dda ac aeth pethau'n dda, yn dda iawn mewn gwirionedd. Medal aur gyda sgôr record Brydeinig!”

Mae o nawr yn croesi ei fysedd y bydd yn llwyddo eto yn Rhufain ac mae pawb yn dymuno pob llwyddiant iddo.