Basged (0) Mewngofnodi

Anest a Bethan o’r Gymdeithas yn ymweld â Hafan Cefni

Treuliodd Anest a Bethan ddiwrnod yn Hafan Cefni, Llangefni sef cartref byw’n annibynnol lle mae preswylwyr yn byw mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Siaradon nhw â’r preswylwyr ac arddangos offer defnyddiol ar gyfer pobl sy’n byw gyda nam golwg all eu helpu yn y cartref.

Roedd yn ddiwrnod prysur wrth iddyn nhw gwrdd ag aelodau’r Grŵp Nam Golwg sy’n cyfarfod bob mis ac yn tyfu’n gyson.

Meddai Anest sy’n swyddog adsefydlu gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru: “Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn Hafan Cefni. Roedd yn bleser cael cwrdd â'r pobl 'rydym wedi’u cefnogi yn flaenorol ac yn ogystal cael cyfle i gwrdd â phobl newydd. 

“Roedd yn wych cael y cyfle i drafod ac yn bwysig cael dangos beth sydd ar gael i gefnogi pobl sydd yn byw gyda nam golwg yn enwedig pobl sydd heb glywed am y gwasanaeth 'rydym yn ei gynnig.

“Rwy'n teimlo fod Hafan Cefni yn leoliad hyfryd i gael cynnig diwrnodau fel hyn gyda staff arbennig a chyfeillgar iawn.

“Edrychaf ymlaen am yn cyfle eto i gael cwrdd â phobl yn y dyfodol.”

Meddai Bethan, sy’n swyddog ymgysylltu gyda’r Gymdeithas: “Roedd hi’n hyfryd iawn heddiw cwrdd â rhai o drigolion Hafan Cefni a dangos iddyn nhw beth sydd ar gael i’w helpu i fyw’n annibynnol. Roedd y staff yn brysur iawn, ond fe wnaethon nhw gymryd yr amser i sgwrsio â ni ac i ofyn cwestiynau am ein gwasanaethau.

“Mae’r dyddiau hyn mor arbennig gan eu bod yn rhoi cyfle i gwrdd â phobl wyneb yn wyneb.

“Diolch yn fawr i’r staff am eich croeso cynnes.”