Apêl am ymddiriedolwyr newydd i roi cymorth i Gymdeithas y Deillion
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn awyddus i recriwtio ymddiriedolwyr newydd i’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl gyda nam golwg.
Rydym yn chwilio am unigolion sy’n barod i rannu eu harbenigedd a’u hamser i ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Gofynnir am ymrwymiad o hyd at chwe awr y mis.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â chriw brwdfrydig yn cynnwys y prif weithredwr, staff a gwirfoddolwyr i gynllunio a darparu gwasanaethau i bobl a nam golwg
Ymysg y gwasanaethau a gynigir gan y Gymdeithas mae:
- Recordio llyfrau llafar a phapurau newydd
- Cynnal nifer o grwpiau a gweithgareddau
- Canolfan adnoddau
- Gwasanaeth arbenigwyr adsefydlu gweledol
- Addysg technoleg gwybodaeth
Mae’r Gymdeithas yn awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth unigolion o bob tras a chefndir sydd ag ystod eang o sgiliau a phrofiadau.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1882 gan Esgob Bangor. Mae ein canolfan adnoddau yn 325, Stryd Fawr, Bangor.
Mae gwybodaeth ar ein gwefan www.nwsb.org.uk neu ewch at ein cyfrifon Facebook, Instagram neu TikTok.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu sgwrs gyffredinol ffoniwch y prif weithredwr Steven Thomas 01248 353604 neu ebostio steven@nwsb.org.uk
Llun: Yn dangos murlun ar wal Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor
