Basged (0) Mewngofnodi

Arddangosfa o gelf a chrefft a llyfrau llafar yn llyfrgell Bangor!

Mae arddangosfa hyfryd o waith aelodau ein Clwb Celf a Chrefft ar gael yn Llyfrgell Bangor tan o leiaf ddiwedd y mis.

Mae'r clwb yn cael ei redeg gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ac mae'r aelodau i gyd yn ddall neu'n byw gyda nam golwg.

Yr arweinydd medrus yw'r artist Lydia Mary Fernandez-Arias.

Agorwyd yr arddangosfa ddechrau’r mis a bydd yna tan o leiaf y mis nesaf os nad mwy.

Mae croeso ichi ddod i weld y gwaith neu hefyd i holi am ein llyfrau llafar Cymraeg sydd ar gael yn y llyfrgell. Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries

Mae croeso i unrhyw un sy'n ddall neu sy'n byw gyda nam golwg i ymuno â'r clwb drwy ffonio Bethan Williams ar 01248 353604 neu anfon at admin@nwsb.org.uk

Mae'r clwb yn cyfarfod yn Nhŷ Cyfarfod y Crynwyr, Bangor bob pedwerydd dydd Iau yn y mis. 

Dyma ychydig o luniau o aelodau’r clwb yn ymarfer y gelfyddyd Tsieineaidd o baentio â brwsh a chael cân fach tra mae nhw wrthi!