A- A A+

English

Awgrymiadau a chymorth cyn mynd ar wyliau

Gofynnon ni i'n haelodau os yw bod yn ddall neu'n byw gyda nam golwg yn rhwystr i fynd ar wyliau.

Gofynnon ni ichi rannu eich cyngor ar beth i'w wneud cyn mynd ac yn ystod eich gwyliau.

Mae Anthony Jones, sydd a nam golwg, a'i wraig Tracy, o Gaernarfon, wedi anfon yr awgrymiadau yma sydd mewn llun isod.

  • Pwysigrwydd paratoi gwaith cartref am y wlad/ardal/gwesty.
  • Asiantaeth teithio fel Teithiau Menai Travel yn gallu bod o gymorth mawr wrth gynllunio a rhoi gwybodaeth berthnasol i ni.
  • Defnydd o Apps e.e YouTube i gael barn pobl. Gallu gweld os ydi'r ardal yn diogel, fflat ayb.
  • Dangos y ffon wen yn y maes awyr ac mae llawer o gymorth ar gael. Hefyd mewn llefydd prysur fel London Underground.
  • Rhai cwmniau teithio wedi dod a phecyn diogelwch at y set yn yr awyren fel ein bod yn medru ei deimlo a gwybod yn union ble mae'r siaced achub ayb.
  • Posib gofyn i'r gwesty i gadw'r un bwrdd bwyd yn agos at y buffet. Hefyd posib gofyn am wely haul yn agos at y man diogel i fynd i fewn i'r pwll nofio.