Bethan yn rhoi cyngor ar wahanol offer defnyddiol yn Ysbyty Abergele
Cafodd ein swyddog ymgysylltu, Bethan Sage Williams, groeso cynnes gan Roxanne Anderson – Swyddog Cyswllt y Clinig Llygaid (ECLO) – yn ogystal â’r staff a’r cleifion yng nghlinig llygaid Ysbyty Abergele ddoe.
Dangosais offer a ddefnyddir yn ddyddiol i’r nyrsys yn y clinig – pethau a allai fod yn ddefnyddiol i bobl sydd wedi colli eu golwg, fel oriorau sy’n siarad, ffonau â botymau mawr, llyfrau cyfeiriadau print bras, ac ati.
Daeth dynes, oedd newydd weld ei hymgynghorydd, at y bwrdd a rhoi cynnig ar sbectol haul â lensys melyn.
Cafodd ei syfrdanu gan y ffordd yr oeddent yn dileu’r llacharedd.
Ei phrif broblem yw’r goleuadau wrth fynd i siopa: “Mae’r goleuadau yn yr archfarchnadoedd hyn mor gryf ac yn fy atal rhag mynd, felly bydd y rhain yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Meddai Bethan: “Rwy’n edrych ymlaen at ymweld eto’r flwyddyn nesaf.”

