Bethan yn ymweld â Hafan Gwydir, Llanrwst
Mae Hafan Gwydir yn gynllun tai gyda gofal ychwanegol sy'n gweithredu 24 awr y dydd, gan gynnig fflatiau hunangynhwysol ynghyd ag ardaloedd cymunedol, gweithgareddau, a staff gofal ar gael os oes angen.
Mae'r preswylwyr yn byw yn eu fflatiau eu hunain ond mae ganddynt fynediad at gymorth, prydau bwyd a mannau cymdeithasol.
Dywedodd Bethan: "Cyfarfûm â chymaint o breswylwyr diddorol a chefais gyfle i roi gwybodaeth iddynt a dangos teclynnau defnyddiol ar gyfer bywyd bob dydd iddynt.
"Gobeithio y bydd hyn yn eu helpu i barhau i fyw'n annibynnol; dyna pam mae'r gwaith hwn mor bwysig i mi.
"Mae'n debyg fy mod wedi siarad â dwsin o breswylwyr, pob un â straeon gwahanol i'w rhannu, ond yn ystod y sgyrsiau hynny gallwn ddarganfod y ffordd orau o'u cefnogi."
"Dywedodd rheolwraig Hafan Gwydir, Sian Taylor, y byddai hi'n hoffi i ni ymweld eto yn y flwyddyn newydd."



