Bethan yn ymweld â Phentre’r Pwyliaid ym Mhenrhos, Pwllheli
Yr wythnos ddiwethaf, (17.4.26) ymwelodd Bethan Sage Williams â Phentre’r Pwyliaid ym Mhenrhos, Pwllheli.
Trawsnewidiodd y Gymdeithas Dai Pwylaidd hen faes awyr yr Awyrlu yn y 1940au, gan greu pentref bach o gartrefi ar gyfer dynion a merched o wlad Pwyl a benderfynodd aros yn y DU wedi’r Ail Ryfel Byd.
Meddai Bethan, swyddog ymgysylltu Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru: “Roedd yn ddiwrnod prysur. Bûm yn siarad â’r trigolion ac yn dangos offer defnyddiol i’r deillion ac i bobl sy’n byw gyda nam golwg.
“Roedd pawb yn hynod o glên ac roedden nhw o’r farn fod yr ymweliad wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddyn nhw.
“Maen nhw ar hyn o bryd yn symud i’w cartrefi newydd sydd wedi’i adeiladu’n agos, ac rydw i wedi cael gwahoddiad i fynd yn ôl unwaith fydd pawb wedi ymgartrefu - am baned a chacen!”
Bydd ein Diwrnod Gwybodaeth nesaf yn cael ei gynnal yn Hafan Cefni, Llangefni, ar 09/06/26 sef un o gynlluniau Byw’n Annibynnol i Bobl Hŷn – Cymdeithas Tai Clwyd Alyn.
Dewch draw i ymuno â fi wrth y brif fynedfa rhwng 10yb-2yp
- Bethan gyda stondin llawn offer ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg
- Golwg agos o stondin llawn offer ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg
- Dynes yn defnyddi un o'r offer mae Cymdeithas y Deillion yn cynnig
- Dynes yn gwisgo sbectol mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn ei gynnig i bobl sydd wedi colli eu golwg




