Cân am ‘le tywyll’ i ysbrydoli eraill sy’n byw gyda nam golwg
Mae cerddor ifanc sydd â nam golwg newydd ryddhau ei sengl cyntaf yn sôn am ei brofiadau o fyw gyda nam golwg.
Dywedodd Phill Jones, 22, o Gaernarfon fod y gân ‘Diolch i Chdi’ yn sôn am ei brofiad o “fod mewn lle tywyll ac unig pan yn ifanc.”
Meddai Phill, sy’n gweithio i gwmni o gyfreithwyr, mai neges y gân yw dweud “Diolch” i’w holl ffrindiau a theulu am eu cefnogaeth a bod yna olau ar ddiwedd cyfnod tywyll mewn bywyd.
Fe ysbrydolwyd Phill gan y canwr Elidyr Glyn a’r band poblogaidd Bwncath i ddechrau cyfansoddi caneuon gwreiddiol.
Meddai Phill: “Ma' ysgrifennu caneuon yn ffordd i mi allu dangos emosiwn a fy nheimladau.
“Hefyd dwi’n gobeithio ysbrydoli pobl eraill sydd â nam golwg i wireddu eu breuddwydion a mynd amdani mewn bywyd – a dim gadael i’r nam golwg eu dal nhw yn ôl.”
Recordiwyd ‘Diolch i Chdi’ yn Stiwdio Sain, Llandwrog, Caernarfon a’r cynyrchydd oedd Robin Llwyd Jones.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda Phill Jones Phillip.miwsig@outlook.com neu 07799318760
- Phill Jones yn perfformio mewn gig elusennol i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Phill Jones yn perfformio mewn gig elusennol i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
- Clawr sengl “Diolch i Chdi
Clawr sengl “Diolch i Chdi


