A- A A+

English

Cinio Nadolig Clwb cerdded yn llwyddiant mawr

Daeth dros 30 o aelodau Clwb Cerdded Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru i fwynhau ein cinio Nadolig blynyddol heddiw (04/12/24).

Roedden nhw wedi teithio o bob rhan o’r Gogledd gan gynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy i ddathlu blwyddyn arall o gerdded gyda Chlwb cerdded Eryri.

Mae’r clwb yn agored i unrhyw un sydd â nam golwg.

Maen gyfle i adennill annibyniaeth a throedio llwybrau gwahanol yng nghwmni ffrindiau newydd.

Mae yna griw o wirfoddolwyr gwych ar gael i gynnal sgwrs neu i gynnig help llaw wrth dywys ar hyd y llwybrau.

Mae’r teithiau yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Mercher bob mis o’r flwyddyn ac mae yna fws gael i gludo cerddwyr a’u cŵn tywys o’n swyddfa ym Mangor i ddechrau’r daith ac yn ôl.

Wedi’r cinio bendigedig, fe ddiolchodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas, i reolwr masnachol Clwb Rygbi Bethesda, Wayne Eccles, a’i dîm am baratoi gwledd i bawb.

Diolchodd hefyd i drefnwyr teithiau'r Clwb Cerdded sef Mark ac Elaine Roberts a Kevin a Shelagh Phillips am eu gwaith ac i Dilwyn Roberts am yrru’r bws.

Ychwanegodd Steven ei fod eisiau diolch i Soroptomistiaid Bangor am gyfraniad o £500 tuag at gostau’r clwb. Cyflwynwyd yr arian ar ran y Soroptomistiaid gan Olga Evison.

Roedd y raffl yn llwyddiant mawr gyda nifer o enillwyr. Yn eu plith oedd Peter Evison oedd hefyd yn dathlu ei ben-blwydd.

Dywedodd un o drefnwyr y teithiau cerdded, Mark Roberts, fod pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar i fynd ar deithiau’r clwb yn y flwyddyn newydd.

Apeliodd hefyd ar unrhyw un fyddai yn hoffi crybwyll taith addas a newydd i gysylltu ag o drwy’r Gymdeithas.