Clwb Cerdded Eryri
Taith Gerdded Marine Drive, Y Gogarth Llandudno
17 Ionawr 2024
Rydym yn dechrau’r flwyddyn newydd gyda thaith gerdded ar hyd Marine Drive o amgylch y Gogarth yn Llandudno. Mae'r daith yn 5 milltir ac ar balmentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n eithaf da wrth ochr y ffordd dawel iawn, fodd bynnag mae yna ddringfa o ychydig dros 500 troedfedd.
Bydd ein taith gerdded yn cychwyn ger y pwll padlo ar lan Orllewinol Llandudno lle mae rhai cyfleusterau cyhoeddus. Mae yna gaffi bach hanner ffordd rownd y daith gyda safle picnic cyhoeddus gerllaw.
Byddwn yn gorffen ein taith gerdded ger y Palladium (Wetherspoons) lle gallwn gael egwyl toiled ac efallai rhywbeth i’w fwyta.
Mae'r arwynebau palmantydd yn eithaf da ond mae'n siŵr y bydd rhai pyllau, felly mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol ac fe'ch cynghorir hefyd i wisgo dillad gwrth-ddŵr gan fod y tir yn eithaf agored i Fôr Iwerddon.
Mae NWSB yn darparu bws i ni, mi fydd yn gadael swyddfeydd NWSB Stryd Fawr Bangor am 10:30 gan ein gollwng ar y lan Orllewinol i gychwyn ein taith gerdded tua 11:15. Bydd y bws yn ein codi fyny yn Llandudno tua 15:15, i'n cael yn ôl i Fangor am tua 16:00.
Peidiwch ag anghofio eich pecyn bwyd a diodydd.
Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd garw – Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a neges destun erbyn 8.am ar ddiwrnod y daith gerdded. Wrth ymateb i'r e-bost hwn a allech gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon testun os gwelwch yn dda.
Mae'n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu'r trefniadau bws.
1. A fyddwch chi'n ymuno â ni ar y daith gerdded?
2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
3. Oes angen gwirfoddolwr tywys â golwg arnoch chi?
4. Rhif ffôn symudol.
5. Ble byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?
Rydyn ni nawr yn cynllunio rhaglen ar gyfer 2024 felly os oes gennych chi unrhyw syniadau am lwybrau newydd neu efallai hoff daith gerdded bersonol yna rhowch wybod i ni. Rydym yn fwy na pharod i ymuno â chwpl o wirfoddolwyr i archwilio unrhyw awgrymiadau llwybr posibl.
Peter Evinson a Mark Roberts
Bethan Sage Williams, Swyddog Ymgysylltu bethan@nwsb.org.uk