A- A A+

English

Clwb Cerdded Eryri Dolwyddelan - Cwm Penamer

Taith bleserus eto ddoe i 28 ohonom yng Nghwm Penamnen. 

Diolch i pawb ddaru ymuno ar daith ac yn arbennig i Ioan Davies o Barc Eryri am ein tywys.
Gobeithio y cawn eich cwmni eto fis nesaf.
Mark  a Peter


Clwb Cerdded Eryri
Dolwyddelan - Cwm Penamer
Dydd Mercher 19 Ebrill 2023

Helo Pawb,
Rydym wedi trefnu taith i, Dolwyddelan, pentref hardd ar yr A470 rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog.
Mae taith gerdded ychydig dros 4.5 milltir a byddwn yn cychwyn ac yn gorffen ein taith ym maes parcio Gorsaf Reilffordd Dolwyddelan (SH 7373 5217).

Byddwn yn dechrau cerdded ar hyd Ffordd Rufeinig sydd bellach ag arwyneb tarmac da. Mae na  safle ger Afon Cwm Penamer lle gawn ni  aros am ginio. Bydd y rhan fwyaf o'r llwybr ar ffyrdd da ond mae darn byr a allai fod ychydig yn fwdlyd felly mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol ac hefyd i wisgo dillad addas .

Mae’r llwybr yn dringo tua 450 troedfedd ond gallwn gymryd ein hamser a stopio i fwynhau clywed hanes yr ardal hardd hon a’r gwaith coedwigaeth sy’n cael ei wneud gan Ioan Davies, Warden y Parc Cenedlaethol.

Mae’r bus yn gadael swyddfa NWSB,  Stryd Fawr Bangor am 10:15
Maes parcio ger y cae pêl-droed ym Methesda am 10:30.
Maes Parcio Gorsaf Dolwyddelan tua 11:15
Cychwyn ar ein taith gerdded am 11:30.
Dylem fod yn ôl yn y maes parcio i'r bws am 15:00 ar gyfer ein taith yn ôl, ac yn cyrraedd Mangor tua 16:00yp.
I unrhyw un sydd eisiau teithio mewn car, mae maes parcio am ddim yng Ngorsaf Dolwyddelan er bod y gymuned leol yn gofyn am gyfraniadau i helpu gyda chynnal a chadw maes parcio.

I unrhyw un sy'n dod o Llandudno mae trên i fod i adael Llandudno am 10:20 gan gyrraedd Dolwyddelan am 11:12 gyda thaith yn ôl yn gadael Dolwyddelan am 15:11 gan gyrraedd Llandudno am 16:24yp

Peidiwch ag anghofio bocs bwyd.

Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd garw – Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a neges destun erbyn 8.am ar ddiwrnod y daith gerdded. Wrth ymateb i'r e-bost hwn a allech gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon testun os gwelwch yn dda.

A wnewch chi roi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl os ydych yn bwriadu ymuno â ni. bethan@nwsb.org.uk

Os gwelwch yn dda atebwch y cwestiynau canlynol

  1. Ydych yn dod ar y daith gerdded?

  2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?

  3. Oes angen gwirfoddolwr tywys arnoch chi?

  4. Rhif ffôn symudol.

  5. Ble byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?