A- A A+

English

Clwb Cerdded Eryri - Llyn Elsi, Betws-y-Coed 17 Gorffennaf

Hysbysiad o newid llwybr ar gyfer y daith gerdded nesaf, dydd Mercher, Gorffennaf 17, 2024.

Llyn Elsi, Betws-y-Coed

Bydd amseroedd y bws yn aros yr un fath, gan ddechrau am 10:30am o Fangor a chodi am 3:15pm yn Rhaeadr Ewynnol, Betws-y-Coed ar gyfer dychwelyd i Fangor.

Wedi rhoi ystyriaeth ddwys i’r peth, rydym wedi penderfynu mai’r peth gorau fyddai canslo ein taith gerdded arfaethedig o Gapel Curig i Fwthyn Ogwen yr wythnos nesaf.

Gyda’r tywydd wedi bod mor wlyb, mae’n bur debyg y gallai’r llwybr fod yn eithaf gwlyb a mwdlyd, felly, rydym bellach wedi aildrefnu ein taith a byddwn yn cerdded i Lyn Elsi sydd yng Nghoedwig Gwydyr uwchben Betws-y-Coed.

Bydd ein taith yn cychwyn heb fod ymhell o Raeadr Ewynnol.

Byddwn yn cerdded ar hyd ffyrdd coedwigaeth sy'n eithaf llydan ac ar wyneb gweddus (dim mwd).

Wedi cyrraedd Llyn Elsi, byddwn yn torri am ginio cyn mynd yn ôl i’n man cychwyn.

Bydd y daith gyfan tua 4.5 milltir.

Bydd ein bws yn mynd â ni i Fetws-y-Coed yn gyntaf lle mae toiledau cyhoeddus.

Os yw’n gwneud pethau’n haws i rai o aelodau ein grŵp sy’n byw lawr yr arfordir neu yn ardal Blaenau Ffestiniog, gallwn eu codi yn yr orsaf reilffordd ym Metws-y-Coed os ydynt yn dymuno teithio ar y trên.

Unrhyw ymholiadau cysylltwch â Bethan Sage Williams ar 01248 353 604 neu bethan@nwsb.org.uk

  • Llun yn dangos Llyn Elsi, Betws-y-Coed, Conwy. Tynnwyd gan Gary Rogers. WiciCommons.