A- A A+

English

CLWB CERDDED ERYRI - TAITH GERDDED RHYD DDU

Hydref 18fed 2023

Mae gwyliau’r haf drosodd bellach ac rydym yn edrych i gynnal taith gerdded o amgylch Rhyd Ddu yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Taith ychydig dros 4 milltir o hyd fydd tipyn yn fwy anodd na'n teithiau cerdded diweddar. Dyli’r daith  gymryd tair awr a hanner gan gynnwys ein stop hanner awr arferol am ginio.

Fe fydd ein taith yn cychwyn ym maes parcio gorsaf Rhyd Ddu ac yn dilyn y filltir gyntaf i fyny llwybr yr Wyddfa i uchder o ychydig dros 1,000 troedfedd uwch lefel y môr, dringfa o tua 400 troedfedd o Rhyd Ddu.

Ar ôl cinio byddwn yn gwneud ein ffordd i lawr llwybr newydd Beddgelert i ymyl Coedwig Beddgelert cyn dychwelyd i Rhyd Ddu heibio Llyn Y Gadar.

Er bod y llwybrau i gyd wedi'u diffinio'n glir, mae rhai rhannau anwastad a all fod ychydig yn llithrig, yn enwedig ar ôl unrhyw law, felly mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol ac fe'ch cynghorir hefyd i wisgo dillad sydd yn dal dŵr oherwydd gall y tywydd mynyddig fod yn anrhagweladwy.

Mae’r Gymdeithas yn darparu bws i ni a fydd yn gadael  y swyddfeydd Stryd Fawr Bangor am 10:15 ac yn codi yng nghilfan safle bws Morrisons Caernarfon , gyferbyn â’r Alexandria am 10:40. Nodwch y newid o’n man codi arferol.

Dylem gyrraedd maes parcio gorsaf Rhyd Ddu am tua 11:10 lle mae toiledau cyhoeddus.  Gobeithiwn allu cychwyn ein taith gerdded am 11:30. Byddwn yn cwblhau ein taith gerdded ym maes parcio Rhyd Ddu mewn pryd i’r bws ein casglu am 15:00 o’r gloch ar gyfer ein taith yn ôl. Disgwyliwn gyrraedd yn ôl yng Nghaernarfon am tua 15:30 ac ym Mangor tua 16:00 o'r gloch.

Peidiwch ag anghofio eich pecyn bwyd a diodydd.

Byddwn yn gohirio'r daith os bydd tywydd yn wael - Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a text  erbyn 8.am ar ddiwrnod y daith

Wrth ymateb i'r e-bost hwn - cofiwch gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon text os gwelwch yn dda.

Mae'n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan (bethan@nwsb.org.uk) cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu'r bws.
 
1. Ydych am ymuno â ni ar y daith?
2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
3. A oes angen gwirfoddolwr tywysydd golwg arnoch?
4. Rhif ffôn symudol.
5. Lle byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?