A- A A+

English

Clwb Cerdded Eryri - Tregarth i Ty'n y Maes

CLWB CERDDED ERYRI
Dydd Mercher 21 Chwefror
Tregarth i Ty’n y Maes

Rydym wedi trefnu taith gerdded o Dregarth trwy Bethesda i fyny at y ‘Motel’, Ty’n Y Maes yn Nant Ffrancon. Taith gerdded ychydig dros 5 milltir ar hyd amrywiaeth o lwybrau, rhai glan yr afon a choetir. Mae yna ddringfa o ychydig dros 400 troedfedd gan gynnwys cwpl o rannau byr sydd yn serth.

Bydd ein taith yn cychwyn ger yr hen orsaf yn Nhregarth ac yn mynd â ni ar hyd yr hen lwybr rheilffordd trwy “Twnnel Tywyll”. Yna byddwn yn dilyn llwybr Afon Ogwen cyn ymuno â Llwybr Llechi Eryri i ‘Zip World’ lle cawn fwyta ein brechdanau yn eu safle picnic.

Mae toiledau yn y Zip World a chaffi ardderchog. *sylwch mai dim ond taliadau â cherdyn sy'n cael eu derbyn*.

Byddwn yn gorffen ein taith ym Motel Ty’n Y Maes ar yr A5.

Mae'r llwybrau  yn eithaf da ond bydd rhai darnau mwdlyd a allai fod ychydig yn llithrig, o ystyried y glaw diweddar, felly mae esgidiau cerdded cryf  a dillad addas yn bwsig.

Mae'r Gymdeithas wedi archebu bws  fydd yn gadael y  swyddfa ar Stryd Fawr Bangor am 10:30 gan ein gollwng yn Nhregarth am 10:45 yn barod i gychwyn ein taith gerdded am 11:00. Bydd y bws yn ein codi ym Motel Ty’n Y Maes am 15:00 i’n cael yn ôl i Fangor am tua 15:30.

Peidiwch ag anghofio eich pecyn bwyd a diod!.

Byddwn yn gohirio'r daith os bydd tywydd yn wael - Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a text yn mor fuan a posib ar ddiwrnod y daith
 
Wrth ymateb i'r e-bost hwn- mae gofyn i chi gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon text os gwelwch yn dda.

Mae'n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu'r bws
 
1. Ydych am ymuno â ni ar y daith?
2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?
3. A oes angen gwirfoddolwr tywysydd golwg arnoch?
4. Rhif ffôn symudol.
5. Lle byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?

Rydym yn cynllunio rhaglen ar gyfer 2024 felly os oes gennych chi unrhyw syniadau am lwybrau newydd neu efallai hoff daith gerdded, yna rhowch wybod i ni.

*Byddaf ar wyliau o ddydd Iau Chwefror 15fed - 20fed os gwelwch yn dda a allwch e-bostio Steven thomas steven@nwsb.org.uk neu anfon neges 07901537901 i ddweud os ydych yn mynd / ddim yn mynd ar y daith gerdded nesaf.
Bethan