A- A A+

English

Cracyrs Nadolig GWRANDO!

Gyda’r Nadolig ar ein gwarthau, mae stiwdio GWRANDO wedi bod yn brysur yn recordio wyth o lyfrau llafar newydd sbon ichi eu cael o’r llyfrgell leol.

Mae stiwdio GWRANDO wedi’i lleoli yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn 325 Stryd Fawr, Bangor.

Mae pedwar o’r llyfrau yma yn llyfrau llafar i oedolion a phedwar yn llyfrau llafar i blant a phobl ifanc.

Dyma deitlau a manylion y pedwar llyfr llafar i oedolion:

1) Yn ôl i Leifior – Islwyn Ffowc Elis. Darllenwyd gan R Llewelyn Thomas.

2) I’r Eisteddfod – Lois Arnold. Darllenwyd gan Gwen Davies.

3) Salem – Haf Llewelyn. Darllenwyd gan Elain Llwyd.

4) Aduniad – Elidir Jones. Darllenwyd gan Siôn Eifion.

A dyma deitlau a manylion y pedwar llyfr llafar i blant:

1) Cadi a’r Gwrachod – Bethan Gwanas. Darllenwyd gan Mari Prys.

2) Y Boced Wag – Eurgain Haf. Darllenwyd gan Cath Aran.

3) Fi Ydy Fi – Sian Lewis. Darllenwyd gan yr awdur.

4) Anturiaethau’r Brenin Arthur – Rebecca Thomas. Darllenwyd gan Siân Teifi.

Fe rown ni sylw i bob un llyfr yn ei dro a’r un cyntaf ydi Yn ôl i Leifior gan Islwyn Ffowc Elis.

Dyma ddisgrifiad byr: Dilyniant i’r clasur Cysgod y Cryman yn dilyn hanes teulu Lleifior. Recordiad wreiddiol o 1964 wedi ei ail-feistrioli’n ddigidol.

Mae’r nofel yn cael ei ystyried yn glasur. Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1953. Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn Wrecsam ar Tachwedd 17, 1924 sef ychydig dros 100 mlynedd yn ôl.

Mae’n bosib ichi fenthyg y llyfrau yma i gyd. Felly, holwch yn eich llyfrgell leol be’ sy ar gael. Cofiwch hefyd am wasanaeth lawrlwytho Borrowbox yn eich llyfrgell. Mwynhewch y GWRANDO.

Fe wnawn ni gynnwys manylion am weddill y llyfrau llafar dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

  • Llun yn dangos clawr gwreiddiol y nofel a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1953.
  • Llun yn dangos Islwyn Ffowc Elis. Tynnwyd y llun gan Geoff Charles. Diolch i WiciCommons.
  • Llun yn dangos clawr diweddarach y nofel