Basged (0) Mewngofnodi

Croeso cynnes iawn yng Nghlwb Porthmadog!

Cafodd Bethan a Wendy o’r Gymdeithas eu gwahodd gan Mair Millar, sy’n trefnu Clwb y Deillion ym Mhorthmadog, i roi sgwrs am y gwasanaethau sydd ar gael a’r gwahanol ffyrdd y gallwn gefnogi aelodau.

Roedd Jason o VisionAid yno hefyd, yn dangos amrywiaeth o offer. 

Mae VisionAid yn darparu offer a thechnoleg arbenigol i gefnogi pobl sy’n byw gyda nam golwg. Maen nhw’n cynnig pethau fel chwyddwydrau electronig, goleuadau arbennig, peiriannau darllen a dyfeisiau gwisgadwy.

Cafodd pobl gyfle trio y teclynnau a meddai un aelod ei bod wedi synnu faint o offer sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda nam golwg. 

Meddai: “Bydd y chwyddwydrau yn gwneud cymaint o wahaniaeth — fyddai ddim angen ofyn i’m gŵr ddarllen fy mhôst ddim mwy.”

Roedd y clwb yn hynod groesawgar, gyda brechdanau a chacennau hyfryd. 

Roedd yr haul yn tywynnu, a phawb yn falch o’n gweld ni. A rydym yn edrych ymlaen at fynd yn ôl yn fuan.