Cwmni dawns yn dod â chwedlau a straeon yn fyw
Bydd cwmni dawns yn dod â chwedlau a straeon yn fyw mewn cynhyrchiad sydd yn gynhwysol i bobl gyda nam golwg.
Hiraeth, Gwreiddiau Coll - yw enw’r cynhyrchiad gan gwmni dawns newydd Hedydd yn Pontio, Bangor ar Chwefror 15 fel rhan o Gŵyl Gerdd Bangor.
Mae Hiraeth, Gwreiddiau Coll - yn berfformiad trochol sy'n archwilio themâu hunaniaeth, dadleoli a chysylltiadau dynol a adroddir trwy blethu dawns fertigol, adrodd straeon a cherddoriaeth fyw gan Eädyth Crawford
Bydd o fewn gosodiad celf syfrdanol.
Bydd gweithdy a thaith cyffwrdd rhad-ac-am-ddim ar gael cyn y sioeau sy’n hygyrch i gynulleidfaoedd sydd â nam golwg.
Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gynnal yn Theatr Stiwdio, Pontio, Bangor ar Chwefror 15 am 2 a 5yp gyda gweithdy a thaith cyffwrdd am ddim yn yr un lleoliad am 12.30-1.30yp a 3.30-4.30yp.
I archebu tocynnau i’r gweithdy a thaith gyffwrdd ymlaen llaw, anfonwch at hedyddcyf@gmail.com neu ffoniwch 0796 242 4410.
Mae’r cynhyrchiad mewn cydweithrediad â VDKL (Vertical Dance Kate Lawrence) ac yn rhan o Ŵyl Gerdd Bangor.
Fe'i cefnogir hefyd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Edrychwch ar y fideo yma i gael rhagflas o'r perfformiad:
Lluniau gyda charedigrwydd Anthony Harrison