Basged (0) Mewngofnodi

Cyfarfod misol yn llawn sgyrsiau, rhannu profiadau a dathlu!

Gwahoddwyd Hannah Rowlatt, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd RNIB Cymru, i'n cyfarfod misol yn Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn.

Siaradodd Hannah am sut mae adferiad yn wasanaeth hanfodol sy'n rhoi'r sgiliau a'r gefnogaeth sydd eu hangen i’r deillion a rhai sy’n byw gyda nam golwg i fyw'n annibynnol.

Gall hyn gynnwys hyfforddiant defnyddio ffon wen, dysgu am dechnoleg, datblygu sgiliau coginio neu wneud addasiadau yn y cartref.

Roedd hi eisiau clywed am brofiadau'r aelodau o Adferiad Golwg a'r gefnogaeth maen nhw wedi'i derbyn.

Siaradodd Betti Hunter, swyddog cyfathrebu gyda’r RNIB, am ei rôl sy'n cynnwys ymgysylltu â'r cyfryngau, creu cynnwys digidol, a chefnogi ymgyrchoedd yn ymwneud â cholli golwg.

Yn ystod y trafodaethau grŵp, siaradodd yr aelodau am amrywiaeth o faterion, o amseroedd aros i gael mynediad at wybodaeth.

Ar ôl y trafodaeth grŵp, siaradon nhw â rhai aelodau yn breifat am eu profiadau o adferiad.

Roedd y rhai a oedd wedi cael cymorth adferiad, hyfforddiant defnyddio ffon neu ymweliad cartref yn hapus gyda'r cymorth a gawsant, ac roedd y rhai nad oeddent wedi'i gael yn teimlo'n fwy gwybodus am y gwasanaeth a phwy i gysylltu â nhw os oedd angen.

Fe wnaethom ni hefyd ddathlu pen-blwydd dynes arbennig. Bydd Olwen Spicers yn 103 oed yr wythnos hon!