A- A A+

English

Cyfle i bobl sy’n byw gyda nam golwg i yrru car ar drac rasio

Os ydych chi'n byw gyda nam golwg ond yr hoffech chi yrru car ar drac rasio, dyma'ch cyfle.

Mae elusen Speed of Sight yn cynnal digwyddiad ar ddydd Mawrth, Hydref 15fed yn Trac Môn, Ty Croes, Ynys Môn.

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind wedi cynnal digwyddiadau tebyg yn y gorffennol gyda Speed of Sight yn Trac Môn.

Mae’r elusen yn cynnig y profiad gyrru gwych hwn am gyfanswm ffi cofrestru o £59 y person, yn hytrach na’r ffi lawn o £159.

I yrru, mae'n ofynnol i yrrwyr wisgo balaclafa untro a helmed gydag uned gyfathrebu i'w cynorthwyo er mwyn diogelwch ac i gyfathrebu. Os oes angen, mae ganddynt declyn codi i helpu gyrrwyr i fynd i mewn ac allan o'r ceir y mae angen i ofalwr personol neu weithiwr cymorth ei weithredu.

Nid yw'r trefniadau amseru yn gweithio yn union i'r funud bob tro ar ddiwrnod trac.

Gall anghenion ein gwesteion fod mor amrywiol, yn aml nid ydym yn gwybod beth i'w ddisgwyl tan y diwrnod.

Rydym yn neilltuo slot awr i bobl, gyda 3 gyrrwr yr awr.

Bydd pob un yn cael ei 20 munud allan yn y car ar ryw adeg yn ystod yr awr honno.

O'n profiad ni gall unrhyw amser hirach fod yn flinedig ac amharu ar gyffro'r profiad.

Gall y slotiau amser sydd ar gael fod yn 10yb, 11yb, 12dydd, 2yp a 3yp.

I archebu lle ewch i'n system archebu ar-lein yn: https://www.trybooking.com/uk/events/landing/54119?

Neu gallant gymryd taliad cerdyn dros y ffôn ar 0161 714 4567.

Mae croeso i wylwyr a chefnogwyr ddod draw heb unrhyw gost ychwanegol, y mwyaf y gorau!!

Unwaith y bydd y ffi gofrestru wedi'i thalu, bydd Speed of Sight mewn cysylltiad yn nes at y diwrnod gyda mwy o fanylion.

Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw aelod o’r tîm os hoffech ragor o wybodaeth.

Edrychwn ymlaen i gwrdd â chi ac unrhyw un arall sydd eisiau dod draw! #SpeedofSight