A- A A+

English

Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr

Mehefin 3-9 2024

Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn dathlu wythnos gwirfoddolwyr rhwng Mehefin 3-9 - yr wythnos nesaf gyda digwyddiad arbennig.

Mae’r Gymdeithas yn trefnu sesiwn hyfforddi gwirfoddolwyr yng Nghanolfan y Crynwyr, Stryd y Deon, Bangor ddydd Gwener, Mehefin 7 o 10.30yb-12.

Mae gennym dîm ymroddedig o wirfoddolwyr gennym sy’n helpu’r Gymdeithas mewn amrywiaeth o rolau gwahanol.

Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o waith y Gymdeithas ac yn ein galluogi ni i gynnal teithiau Clwb Cerdded Eryri, er enghraifft.

Mae ein gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi cymorth inni gynnal clybiau cymdeithasol rheolaidd fel yr un a gynhelir yn fisol ym Mae Colwyn, er enghraifft.

Yn y digwyddiad hwn, bydd croeso i’n gwirfoddolwyr ddod at ei gilydd i gyfarfod aelodau o staff y Gymdeithas.

Mae croeso arbennig hefyd i unrhyw un fyddai’n hoffi ymuno gyda ni fel gwirfoddolwyr.

Yn y digwyddiad bydd pawb sydd eisiau derbyn hyfforddiant ar sut i dywys person arall sydd â nam golwg ar daith gerdded, er enghraifft, yn cael dysgu gan ein hyfforddwyr profiadol.

Yn yr un modd bydd tywyswyr presennol hefyd yn medru elwa o’r diwrnod drwy dderbyn hyfforddiant i ddiweddaru eu sgiliau.

Ymunwch gyda ni i ddathlu 40 mlynedd o Wythnos y Gwirfoddolwyr ac i geisio ysbrydoli mwy o bobl i wneud gwahaniaeth.

Bydd lluniaeth – te a choffi – ar gael.

Bydd rhaid cofrestru cyn y diwrnod drwy e-bostio Bethan Sage Williams, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ar bethan@nwsb.org.uk neu ffonio 01248 353 604.

Cyfeiriad y digwyddiad: Canolfan y Crynwyr, Stryd y Deon, Bangor, Gwynedd LL57 1UR

Grwp o cerddwyr yn gwenu