Cymdeithas Deillion yn ennill cystadleuaeth £1,500 gan Tesco!
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wrth ein boddau ar ôl i’n cais am grant o £1,500 ddod yn gyntaf mewn pleidlais gan gwsmeriaid Tesco!
Cynhaliwyd y pleidleisio mewn siopau Tesco Bangor a Bethesda rhwng Ebrill 1 a Mehefin 30, 2025 gyda channoedd o gwsmeriaid yn dewis rhoi eu tocynnau crwn glas i’r Gymdeithas.
Diolch yn fawr i chi gyd!
Roedd dau brosiect cymunedol arall hefyd yn cystadlu am yr arian dan gynllun Tesco Stronger Starts.
Byddan ni nawr yn mynd ati i wario’r arian ar drefnu teithiau cerdded i’r deillion a phobl sy’n byw gyda nam golwg gyda’n Clwb cerdded Eryri.
Sefydlwyd y Clwb Cerdded gan y Gymdeithas yn 2007 i roi cyfle i bobl sy'n byw gyda nam golwg adennill a chadw eu hannibyniaeth a throedio llwybrau gwahanol yng nghwmni ffrindiau newydd a gwirfoddolwyr gwych.
Mae'r teithiau cerdded misol yn cynnig y cyfle i fynd i lefydd gwahanol ac yng nghwmni ffrindiau.
Mae Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn gwario cannoedd o bunnoedd bob mis a miloedd bob blwyddyn am gludiant i fynd â'r cerddwyr i'w cyrchfan ac adref.
Os hoffech wybod rhagor am Clwb cerdded Eryri Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, ffoniwch Bethan ar 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk


