Cynnwys cylchgrawn Barn ar gael i’r deillion – am ddim!
Bydd pigion o gynnwys y cylchgrawn materion cyfoes Barn ar gael i wrando arno am y tro cyntaf ar CD neu ffurf sain arall – a hynny am ddim.
Mae’r cylchgrawn – a sefydlwyd yn 1962 - yn mentro i helpu darllenwyr dall neu sydd â nam golwg.
Bydd elusennau Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Bangor a Llyfrau Llafar, Caerfyrddin yn recordio awduron yn lleisio eu herthyglau eu hunain ac yn eu hanfon nhw i’r cyhoedd.
Dywedodd un o gyd-olygyddion Barn, Menna Baines: “Rydym wedi recordio detholiad o erthyglau o rifyn Rhagfyr–Ionawr i’w darparu mewn fformat sain a’u rhyddhau ar yr un pryd â’n rhifyn dwbl tymhorol poblogaidd.
“Un o nodweddion arbennig y fenter hon yw mai’r awduron eu hunain fydd yn darllen eu herthyglau, felly gallwch fwynhau’r darnau yn llais yr awdur.
“Does dim rhaid i chi fod â thanysgrifiad i Barn i fanteisio ar y cynnig – mae’r gwasanaeth ar gael yn rhad am ddim i unrhyw un sydd â diddordeb.
Meddai: “Gallwn ddarparu’r fersiynau sain ar CD drwy’r post neu fel atodiad e-bost – beth bynnag sydd orau i chi.”
Yn y rhifyn hwn, bydd Meg Elis yn bwrw golwg dros lên a llyfrau 2025, Elin Llwyd Morgan yn trafod hysbysebion Nadolig, Beca Brown yn myfyrio ar unigedd ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod rhaglenni teledu’r Nadolig.
Bydd hefyd stori arbennig ar gyfer y Nadolig wedi'i lleisio gan yr actor Andrew Teilo.
Os hoffech chi, aelod o’ch teulu neu ffrind dderbyn y fersiwn sain, cysylltwch â swyddfa@barn.cymru neu ffoniwch Fabio Lewis Llyfrau Llafar: 01267 238225
Os hoffech gyfrannu at yr elusennau sy’n galluogi Barn i gynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim, ewch i:


