Basged (0) Mewngofnodi

Dail y coed a chysgod bendithiol ar daith o Fethesda i Fangor

Daeth 27 o gerddwyr a chwech ci tywys ar ein taith gerdded ddiweddaraf ar hyd Lôn Las Ogwen o Bethesda i Fangor.

Er gwaetha’r tywydd poeth, roedd yna ddigonedd o goed a’u deiliach yn cynnig cysgod inni ar hyd y daith – gyda awel hyfryd hefyd.

Fe ddechreuon ni’r daith ger croesfan Bryn Bella gyda Phont Coetmor yn croesi bwrlwm Afon Ogwen islaw lle’r oedd melin ers talwm a thafarn nepell hefyd.

Fe gerddon ni ar hyd y Lôn Las trwy Dregarth ac ymlaen i gaffi Blas Lon Las Cafe - Fferm Moelyci, lle gafon fwyd a diod, a seibiant bach.

Fe ryfeddon ni at weithgarwch a phrysurded y fferm a’u llwyddiant yn tyfu pob mathau o lysiau a thomatos yn arbennig.

Roedd byrddau picnic a thoiled ar gael yno hefyd.

Roedd y llwybr yn wastad wrth inni groesi ac ar darmac gan anelu at bont Felin Hen i groesi ffordd yr A4244 ac yn ol ar y llwybr.

Mae’r llwybr yn dilyn olion dwy gyn-reilffordd – rhwng Bethesda a Bangor – ac un arall rhwng Chwarel Penrhyn a Phorth Penrhyn lle arferid allforio llechi o gwmpas y byd.

Heddiw mae yna siop bysgod yn gwerthu pysgod lleol ym Mhorth Penrhyn.

Oddi yno, fe aethon gerdded trwy ardal Hirael, Bangor ac ar hyd gwaelod Stryd Fawr Bangor.

Daeth y daith chwe milltir i ben yng nghanolfan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym lle gawson baned i ddathlu.

Roedd pawb wedi mwynhau ac eto’n edrych ymlaen at daith y mis nesaf.