Dau glwb yn uno am fore bendigedig!
Dydd Llun (23.3.26) daeth Clwb Cymdeithasol Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru a Grŵp Colled Golwg Conwy at ei gilydd i fwynhau pryd o fwyd blasus, cerddoriaeth a llawer o chwerthin.
Roedd Chris ar yr organ a Gregg ar y gitâr yn creu awyrgylch hyfryd.
Fe goginiodd Sian, Hayden a Brandon o Youth Shedz bryd blasus i bawb.
Ymunodd Roxanne swyddog Eclo o Ysbyty Llygaid Abergele a Meghan Giles o Vision Support gyda ni, gan ychwanegu at gynhesrwydd y diwrnod.
Roedd yn hyfryd cwrdd â phobl newydd – a nawr mae’r clwb eisoes yn cynllunio ein digwyddiad nesaf gyda’n gilydd.
Dywedodd swyddog ymgysylltu Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru Bethan Sage Williams: “Diolch o galon i Meghan, Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol Vision Support, Polly, ein harweinydd grŵp a phawb a wnaeth heddiw mor hyfryd i’n clwb deillion a nam golwg.
“Mae eich cefnogaeth, eich caredigrwydd a’ch gwaith caled yn golygu cymaint.
“Mae dyddiau fel hyn yn dangos pa mor arbennig yw ein clwb deillion, ac rwy’n hynod ddiolchgar i fod yn rhan ohono.”
- Aelodau grwp colled golwg Conwy yn siarad hefo'i gilydd
- Tri person o grwp colled golwg Conwy yn siarad hefo'i gilydd
- Bwffe blasus i'r aelodau gan Sian, Hayden a Brandon o Youth Shedz
- Diferyn Lemwn Cartref wedi ei wnued gan Sian, Hayden a Brandon o Youth Shedz
- Dau person o grwp colled golwg Conwy yn siarad hefo'i gilydd
- Dau pobl yn mwynhau ei hunain gyda Clwb Cymdeithasol Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru a Grwp Colled Golwg Conwy
- Aelod o Youth Shedz yn paratoi bwyd ar gyfer y bwffe
- Plentyn o Youth Shedz yn gwnued brechdan ar gyfer y bwffe
- Pobl yn siarad hefo'i gilydd wrth eistedd o gwmpas y bwrdd









