Dewch i brynu eich cardiau Nadolig arbennig gan y Gymdeithas
Yda chi wedi gweld y ffilm Elf? Do? Yna, mae gennoch chi syniad go dda o’r prysurdeb yma yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wrth inni agosáu at y Nadolig.
Mae’r swyddfa wastad yn brysur a chroesawgar i unrhyw un sy’n galw heibio atom i 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd.
Heblaw bod gennym arddangosfa wych o bob math o offer ar gyfer pawb sy’n byw gyda nam golwg, mae gennym hefyd gardiau cyfarch ar gyfer pob math o achlysur – gan gynnwys y Nadolig ar werth yma.
Ein gweinyddwr, Rowena Thomas, sydd wedi bod wrthi yn creu’r cardiau inni sy’n cael eu gwerthu yn siop yr elusen yn ein canolfan. A chan ei fod bron yn Nadolig, mae Rowena wedi mynd ati i greu nifer o gardiau hyfryd ichi eu prynu. Mae ‘na rai sy’n cynnwys Siôn Corn, ceirw a choed Nadolig yn Gymraeg a Saesneg. Ac maen nhw ar werth am £2.50 yr un gyda’r elw i gyd yn mynd tuag at yr elusen.
Meddai Rowena: “Dechreuais i wneud y cardiau pan o’n i’n gweithio i Antur Waunfawr yn y siop yn Bryn Pistyll. Ar ôl dechrau gweithio i’r Gymdeithas yn 2006 fe wnes i gario ‘mlaen a gofynnodd un o’r ymddiriedolwyr yma imi i wneud rhai ar gyfer eu gwerthu yn Eisteddfod Genedlaethol 2007 yn yr Wyddgrug, Sir Fflint. Mae o’n rhywbeth dwi’n mwynhau ei wneud.”
Er bod y cynlluniau cardiau wedi newid gyda’r oes a’r galw, mae cardiau Rowena yn ddeniadol, syml a lliwgar ac yn cynnwys siapiau tri dimensiwn. Mae croeso ichi ddod draw i’n swyddfa i ddewis rhai eich hun.