Diolch yn fawr i Gapel Seilo am rodd £1,000 i Gymdeithas y Deillion
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn ddiolchgar iawn i aelodau Capel Seilo, Caernarfon am eu rhodd werthfawr o £1,000 fydd yn hwb mawr.
Dewisodd aelodau’r capel ddwy elusen i gasglu arian iddynt eleni sef Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru a hefyd elusen Cancr y Brostad.
Mae’r ddwy elusen wedi derbyn yr un maint o arian.
Fe godwyd yr arian drwy gynnal Ffair Nadolig a boreau coffi gyda swyddog cyfathrebu’r Gymdeithas Hywel Trewyn yn bresennol mewn un achlysur i sôn am waith y Gymdeithas.
Heddiw, (Mawrth 23, 2026) aeth Hywel i dderbyn yr arian gan bump o aelodau pwyllgor gwaith y capel, Dorothy Williams, Edwina Morgan, Eirwen Williams, Alwena Lewis a Marian Jones.
Dywedodd Edwina Morgan: “Oedd hi’n braf cael cyflwyno'r £1,000 i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.”
Meddai Alwena Lewis: “Oeddan ni’n ymwybodol iawn fod yna rhai o aelodau’r capel yn cael budd mawr o waith y Gymdeithas.”
Ychwanegodd Dorothy Williams: “Mae yna gymaint o bethau yn cael eu cynnig (gan y Gymdeithas) i helpu pobol.”
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Deillion, Steven Thomas: “Mae’r Gymdeithas yn wirioneddol ddiolchgar i aelodau Capel Seilo am eu haelioni a’u caredigrwydd parhaus.
“Maent wedi bod yn gyfeillion ffyddlon inni ers nifer o flynyddoedd, ac mae eu cefnogaeth yn parhau i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl sy’n byw gyda nam golwg ledled y gogledd.
“Mae’r rhodd o £1,000 yn adlewyrchu eu hysbryd cymunedol a’u hymrwymiad i helpu eraill. Rydym yn wirioneddol ddyledus iddynt, ac ar ran pawb sydd wedi elwa o’u haelioni dros y blynyddoedd, hoffwn ddiolch o galon iddynt. Mae eu cyfeillgarwch a’u haelioni yn goleuo bywydau pobl ac yn rhoi gobaith go iawn.”
- Marian Jones, Edwina Morgan, Dorothy Williams, Hywel Trewyn, Eirwen Williams ac Alwena Lewis.
Marian Jones, Edwina Morgan, Dorothy Williams, Hywel Trewyn, Eirwen Williams ac Alwena Lewis (Tynnwyd gan Richard Jones)
- Dorothy Williams, Alwena Lewis ac Edwina Morgan
Dorothy Williams, Alwena Lewis ac Edwina Morgan
- Llun o gerdyn gan Capel Seilo
Ar ran Pwyllgor Gwaith Eglwys Seilo, Caernarfon, hoffwn gadarnhau ein bod wedi casglu a throsglwyddo'r swm o £1,000 i chi. Gobeithiwn bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo gwaith eich Cymdeithas gyda Deillion yr ardal. Yn Gywir, Edwina Morgan (Ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith Capel Seilo, Caernarfon)



