Basged (0) Mewngofnodi

Diolch yn fawr i’n holl wirfoddolwyr!

Yr wythnos ddiwethaf (Mehefin 1-7, 2026) fe fuon ni yn dathlu Wythnos Gwirfoddolwyr. Roedd hi’n amhosib enwi pob un o’n gwirfoddolwyr yn unigol ond hoffem ddiolch i bob un sy’n cynnig eu hamser i gydweithio gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bob un o’n gwirfoddolwyr.

Mae rhai yn gwirfoddoli fel tywysyddion gydag ein Clwb cerdded Eryri sy’n trefnu teithiau cerdded misol i ddeillion a phobl sy’n byw gyda nam golwg.

Mae ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr hefyd yn rhoi o’u hamser i redeg ein clybiau cymdeithasol neu’n trefnu gweithgareddau codi arian.

Mae eraill yn darllen llyfrau llafar i blant ac oedolion neu’n darllen a recordio papurau bro.

Rydym wastad yn croesawu pobl newydd i ymuno â’n tîm cyfeillgar. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan ar 01248 353 602 neu bethan@nwsb.org.uk #WythnosGwirfoddolwyr. Diolch yn fawr pawb.