Disgwyl cannoedd i arddangosfa Sight Village Llandudno!
Disgwylir cannoedd o bobl i arddangosfa ar gyfer y deillion a phobl sy’n byw gyda nam golwg a gynhelir yng Ngogledd Cymru'r mis yma.
Mae arddangosfa Sight Village yn cael ei threfnu gan elusen y Frenhines Alexandra, Birmingham (QAC) gyda chymorth Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Fe’i cynhelir yn Arena Venue Cymru, Llandudno rhwng 9-4yp ddydd Mawrth, Medi 22, 2026.
Bydd cyfle i bobl ddall ac eraill sy’n byw gyda nam golwg i archwilio’r offer diweddaraf.
Ymysg y 30 o gwmnïau fydd yn arddangos teclynnau sydd a’r dechnoleg fwyaf blaengar mae VisionAid, Optelec a llawer mwy.
Bydd y teclynnau yn amrywio o offer i roi cymorth wrth goginio yn y cartref, i sgriniau arbennig i chwyddo maint teip i ddarllen a sbecdolau arbennig.
Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar sbectol Meta sy’n medru cael ei defnyddio i ddarllen teip a’i newid i ffurf sain.
Mae’r offer i gyd wedi eu datblygu i alluogi pobl i barhau i fyw mor annibynol a phosib.
Cynhelir gweithdai drwy’r dydd, gan gynnwys sesiynau holi-ac-ateb gyda phencampwr para-saethyddiaeth y byd, Nick Thomas, y ffotograffydd dall Paul Jenkinson, yr actores Karina Jones ac amrywiol driniaethau gan fyfyrwyr Therapi Harddwch Coleg Llandrillo.
Gallwch fwynhau cynnyrch lleol o ansawdd uchel, crefftau wedi'u gwneud â llaw ac anrhegion unigryw gan Ddistyllfa Penderyn, Bragdy Conwy a chrefftwyr talentog o Ogledd Cymru.
Mae tocynnau am ddim a gellir archebu tywyswyr drwy ffonio: 0121 803 5313 neu anfon ebost at sv@qac.ac.uk
Am ragor o wybodaeth: Ffoniwch Bethan: 01248 353 604
Arddangoswyr Sight Village yn egluro i bobl sut mae eu teclynnau yn gweithio (Llun: Sight Village)





