Basged (0) Mewngofnodi

Diwrnod agored llwyddiannus yn Llyfrgell Bangor!

Daeth nifer dda o bobl draw i Lyfrgell Bangor ddoe (dydd Llun, Hydref 6) i ddiwrnod agored i bobl sy’n byw gyda nam golwg.

Trefnwyd y diwrnod gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind a Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries i hyrwyddo ein gwasanaeth llyfrau llafar sef GWRANDO.

Rydym eisoes wedi trefnu dyddiau agored yn llyfrgelloedd Caernarfon a Phorthmadog.

Mae’n fwriad hefyd i gynnal dyddiau agored eraill yn y dyfodol mewn llyfrgelloedd eraill.

Bob blwyddyn, mae'r Gymdeithas yn cynhyrchu 12 llyfr llafar Cymraeg i oedolion a 12 llyfr i blant.

Mae'r recordiadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim yn y llyfrgelloedd ar CD, MP3 neu i'w lawrlwytho neu gellir eu prynu gan y Gymdeithas fel rhan o'i gwasanaeth GWRANDO.

Roedd arbenigwr Adsefydlu Gweledol y Gymdeithas hefyd yn bresennol, gan ddangos ac egluro'r amrywiaeth o gymhorthion ac offer arloesol sydd ar gael i bobl sy'n byw gyda nam golwg.

Cafwyd cyfle hefyd i fwynhau perfformiad cerddorol byw gan Phill Jones, y canwr-gyfansoddwr talentog o Gaernarfon sy'n byw gyda nam golwg.

Mae Phill yn ganwr ac yn adnabyddus am rannu ei stori ac ysbrydoli eraill.