Basged (0) Mewngofnodi

Dyn dall wrth ei fodd gyda’i bot blodau newydd ar ôl i’r llall gael ei ddwyn

Mae dyn dall wrth ei fodd ar ôl iddo gael pot blodau newydd yn lle un arall oedd wedi’i addurno ei hun ond a gafodd ei ddwyn.

Roedd Alan Davies o Fae Colwyn yn hapus iawn ar ôl iddo addurno pot blodau unigryw mewn sesiwn a drefnwyd gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym mis Ebrill.

Dywedodd Alan: “Ar ddyddiau braf a chynnes byddwn i’n mynd a’r pot blodau gladiolas a’i adael y tu allan i’r tŷ a dod a fo yn ôl i mewn pan oedd hi’n oeri yn y nos.

“Dwi’n ddall ac roeddwn i’n ei ganfod drwy gyffwrdd gyda’m bysedd.

“Roeddwn i wedi ei guddio allan i rwystro’r adar (pigeons) rhag ei gael. Ond un diwrnod d’oeddwn ddim yn medru dod o hyd iddo a’i gyffwrdd ac roeddwn yn gwybod yn syth bin ei fod wedi mynd..

“Roeddwn i’n siomedig iawn wrth gwrs. Does neb yn hoffi gweld pot blodau yn cael ei ddwyn.

“D’oes gen i ddim gardd, ond fe wnaeth cymydog ganfod y pot blodau gwag ddim yn bell i ffwrdd, Ond roedd y blodau gladiolas oedd ynddo wedi mynd.”

“Mae'n rhaid mai pobl gas iawn sy’n dwyn pethau fel hyn,”

Dywedodd Alan am yr hyn ddigwyddodd wrth Bethan Williams o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru a Polly Leavers o Glwb Cymdeithasol Deillion Gogledd Cymru ym Mae Colwyn.

Fe gafon nhw air gyda’r artist Lydia Fernandez-Arias ac fe gytunodd hi i wneud sesiwn addurno pot blodau un-i-un gydag Alan i’w alluogi i greu pot blodau newydd sbon gyda blodau newydd ddiwedd mis Gorffennaf.

Fe ddaeth Alan yn ddall 10 mlynedd yn ôl ar ôl gweithio mewn nifer o wahanol swyddi gan gynnwys gyda’r Post, swyddfeydd, gwestai a ffowndri.

Meddai Alan: “Dwi wrth fy modd mod i wedi cael pot blodau arall. Roedd yr un cyntaf wedi dechrau tyfu’n dda cyn iddo gael ei ddwyn. Mae Lydia wedi bod yn dda iawn i ganfod planhigyn arall imi sef Lisianthus y tro hwn.”