A- A A+

English

Dynion dall yn cynnal nofio noddedig ar gyfer elusen ffoaduriaid

Bydd dau ddyn dall yn nofio 10km ar ran elusen ffoaduriaid.

Ac mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi cael cais i roi cyhoeddusrwydd i'r digwyddiad.

Bwriad Barry Dickinson a Chris Copeman yw nofio 400 hyd - neu 10km.

Mae'r ddau’n aelodau hirsefydlog o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ac yn mwynhau'r teithiau cerdded tywys misol yn rheolaidd.

Mae Barry yn cael cwmni ei gi tywys, Tigger, ar y teithiau cerdded.

Dywedodd Barry: "Mae fy ngwraig Heulwen a minnau yn ymddiriedolwyr elusen leol fach arall - Refugee Relief Ynys Môn.

"Dros y blynyddoedd diwethaf mae fy ngwraig wedi trefnu digwyddiad noddedig blynyddol ar ran yr elusen hon.

"Diolch i gefnogaeth hael ffrindiau ac aelodau o'r teulu, mae'r digwyddiadau hyn bob amser wedi dod â rhoddion i mewn sydd wedi galluogi ein helusen i barhau â'i chenhadaeth i helpu'r rhai mewn angen.”

Dywedodd Barry: "Yn anffodus wrth i iechyd Heulwen barhau i ddirywio o ganlyniad i gemotherapi, dyw hi ddim wedi bod yn bosib iddi gymryd rhan eleni.

"Felly rydw i, ynghyd â'm ffrind Chris Copeman, wedi gwirfoddoli i gymryd yr awenau.

"Wrth i Chris a minnau fynd i nofio gyda'n gilydd yn ein pwll lleol yn Llandudno yn rheolaidd, rydym wedi dewis trefnu nofio noddedig ar ran elusen RRYM."

Byddant yn cynnal sesiynau nofio noddedig ym Mhwll Nofio Llandudno drwy gydol mis nesaf, Rhagfyr.

Isod mae dolen i elusen RRYM, yn esbonio'r gwaith maen nhw'n ei wneud a mwy am y nofio’r mis nesaf a sut y gall pobl helpu.

Dywedodd Barry: "Pe gallech ystyried noddi Chris neu fi os gwelwch yn dda, neu os hoffech drefnu eich nofio noddedig eich hun ar ran ein helusen, byddem wrth ein boddau!”

Mae'r elusen RRYM yn rhoi rhyddhad i ddioddefwyr rhyfel neu erledigaeth wleidyddol sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi gydag adnoddau cyfyngedig.

Ar hyn o bryd maen nhw'n noddi 10 o blant anabl sy’n ffoaduriaid yn Libanus i fynychu'r ysgol am un diwrnod yr wythnos.

Mae cludiant yn cael ei ddarparu i'r gwersylloedd lle maent yn byw ac oddi yno.

Mae'r plant yn derbyn addysg sylfaenol mewn llythrennedd a mathemateg, Arabeg a Saesneg, yn ogystal â chyfle i wneud ffrindiau newydd.

Mae'r elusen hefyd yn helpu i gynnal llyfrgell gymunedol yng ngwersyll ffoaduriaid Kiangwali, Uganda.

Mae'r llyfrgell yn darparu ar gyfer 150,000 o drigolion gwersylla, a rhai teuluoedd lleol nad ydynt yn gallu fforddio llyfrau.

Mae'n cynnwys llyfrau plant, gwerslyfrau myfyrwyr a phopeth rhyngddynt.

Mae'r prosiect hefyd yn darparu ysgol deilwra sy'n cymryd 10 dysgwr am bob tri mis, gan rymuso mamau yn eu harddegau a orfodwyd i adael yr ysgol oherwydd beichiogrwydd cynnar neu ddiangen.

https://rrym.uk/sponsored-swim-for-refugees/

I ddarllen mwy am waith RRYM, edrychwch ar eu gwefan: RRYM.UK neu dilynwch y cyfrif Facebook refugeereliefynysmon.

Mae ffurflenni noddi ar gael o Bwll Nofio Llandudno, neu gallwch lawrlwytho o barry.rrym.uk.

Gallwch ffonio neu anfon neges at Barri: 07795468839 neu Chris: 07968501192 am ffurflenni neu ragor o wybodaeth.

  • Barry yn cerdded gyda'i gi tywys heibio gafr
  • Llun yn dangos llyfrgell yng ngwersyll ffoaduriaid Kiangwali, Uganda
  • Chris Copeman yn gwisgo het las a chrys gwyrdd
  • Llun yn dangos merch fach yn Libanus yn diolch am bob cefnogaeth