Ein apêl am wirfoddolwyr ar raglen Prynhawn Da, S4C
Dyma fideo o’r eitem am Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru oedd ar raglen Prynhawn Da ar S4C.
Dyma gyflwynydd y rhaglen, Caryl Bryn, yn holi ein swyddog cyfathrebu, Hywel Trewyn, am waith y Gymdeithas a hefyd am ein apêl am wirfoddolwyr i ymuno â ni fel ymddiredolwyr ar ein bwrdd rheoli.
Gofynnir am ymrwymiad o hyd at chwe awr y mis.
Pwrpas y bwrdd ydi rhoi arweiniad i ni fel staff a defnyddwyr ein gwasanaethau.
‘Da ni yn chwilio am bobl sydd o wahanol gefndir gan gynnwys pobl sy’n hyddysg mewn busnes a llywodraethiant.
Mae’r Gymdeithas yn elusen Gymraeg a dwyieithog yma sy’n gweithredu ar draws Gogledd Cymru.
‘Da ni yn darpapru gwasanaethau i dros 2,000 o bobl sy’n byw gyda nam golwg.
Ymysg y gwasanaethau a gynigir gan y Gymdeithas mae:
- Recordio llyfrau llafar a phapurau newydd
- Cynnal nifer o grŵpiau a gweithgareddau
- Canolfan adnoddau
- Gwasanaeth swyddogion adfer
- Addysg technoleg gwybodaeth
Mae’r Gymdeithas yn awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth unigolion o bob tras a chefndir sydd ag ystod eang o sgiliau a phrofiadau.
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1882 gan Esgob Bangor.
Mae ein canolfan adnoddau yn 325, Stryd Fawr, Bangor.
Mae gwybodaeth ar ein gwefan www.nwsb.org.uk neu ewch at ein cyfrifon Facebook, Instagram neu TikTok.
Os hoffech ragor o wybodaeth neu sgwrs gyffredinol ffôniwch y prif weithredwr Steven Thomas 01248 353604 neu ebostio steven@nwsb.org.uk