Ein taith gerdded nesaf - Y Felinheli i Gaernarfon - Dydd Mercher, Ionawr 21, 2026
Bydd y bws yn gadael Bangor am 10:30 fel arfer ac yn ein gollwng yn Y Felinheli.
Bydd y daith yn dechrau o dafarn Y Garddfon tua 11:00.
(Mae toiledau cyhoeddus gyferbyn â’r dafarn.)
Mae’r daith o’r Felinheli i Gaernarfon yn tua 4.5 milltir.
Mae Mark wedi trefnu inni gael ein cinio yn Nghanolfan Awyr Agored Plas Menai, ble mae meinciau picnic a thoiledau ar gael.
Ar ôl cinio, byddwn yn parhau ar hyd Llwybr Beicio Lôn Las Menai tuag at ddiwedd y daith yng Nghaernarfon.
Bydd bws Dilwyn yn casglu’r grŵp o faes parcio Morrisons, Caernarfon tua 2:30pm ar gyfer y daith yn ôl i Fangor.
Os oes aelodau neu wirfoddolwyr o ardal Caernarfon yn dewis dod hefo car, yna gallant adael eu ceir yn Y Felinheli a cherdded gyda’r grŵp o’r Garddfon.
Bydd modd eu gollwng yn ôl i nôl eu ceir ar y ffordd adref.
Er mwyn trefnu maint y bws, byddwn yn ddiolchgar iawn os gallwch anfon eich enwau at Bethan Sage Williams ar admin@nwsb.org.uk neu 01248 353604.
**Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas**


